Dociau Y Barri
Casgliad ddelweddau yn dangos Dociau'r Barri a'r ardal gyfagos. Agorwyd y dociau yn swyddogol yn 1889 ac erbyn 1913 roedd Y Barri wedi dod yn un o'r porthladdoedd glo prysuraf yn y byd, gan allforio 11 miliwn tunnell o lo.
Mae'r casgliad hwn hefyd yn cynnwys delweddau o'r amrywiol gwmniau oedd wedi eu lleoli yn y dociau yn ystod y blynyddoedd cynnar, yn ogystal â delweddau sy'n cynrychioli cyfraniad y Barri i fasnach a diwydiant yn ne Cymru yn yr ugeinfed ganrif.