William "Roly" Thomas (1923-2012). Lluoedd Prydeinig, Abertawe/Broad Haven
Mae stori William wedi cael ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r llall ac wedi ei dwyn ynghyd yma gan ei wyres, Karen Smith, o nifer o albwmau yn cynnwys ffotograffau ac eitemau eraill a gadwyd er cof am ei amser yn gwasanaethu gyda'r Awyrlu Prydeinig yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd gan William, neu Roly fel y cai ei adnabod (dyma'r enw a ddefnyddir yn y cyfri hwn hefyd), ddiddordeb mawr mewn ffotograffiaeth. Daw hyn yn amlwg o'r nifer fawr o ffotograffau a dynnodd yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu gyda'r Awyrlu Prydeinig rhwng 1942-47, gan fynd ag ef i Loegr, Gwlad Belg ac yna Pakistan ac India. Cafodd y cyfan o'i ffotograffau eu catalogio, eu labelu a'u gosod yn ofalus mewn albymau gan ei wraig annwyl, Joan.