Adelaide Martin (1923-). Lluoedd Awyr Cynorthwyol y Merched, Tanygroes
Gwasanaethodd Adelaide Martin fel Mecanig Hedfaniadau yn Lluoedd Awyr Cynorthwyol y Merched yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd Adelaide ei chyfweld ym mis Mai 2021, gan ddwyn i gof ei phlentyndod yn Swydd Northampton, ymuno â'r WAAF, ei hyfforddiant fel Mecanig Hedfaniadau yn Hednesford ac yna cael ei hanfon am 3 mlynedd i Little Rissington yn Swydd Gaerloyw. Yno, ffurfiodd sawl cyfeillgarwch a oedd barodd gydol ei hoes, yn ogystal â chysylltiad cryf gyda'r criw awyr ifanc a hedfanodd yn yr awyren yr oedd hi a'r WAAFs eraill wedi'i hatgyweirio, rhoi gwasanaeth iddi a'i chynnal a'i chadw. Pan oedd ar seibiant yn ôl adref yn 1943 cyfarfu â'i darpar-ŵr, John Martin, mewn dawns. Mae Adelaide a John yn parhau i fod yn briod rhyw 78 mlynedd ar ôl iddyn nhw gyfarfod am y tro cyntaf ar hap yn y ddawns ac maent wedi byw yng Ngheredigion ers blynyddoedd lawer.
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys disgrifiad ysgrifenedig a ddeilliodd o gyfweliad ag Adelaide ym mis Mai 2021, llun a dynnwyd gan gyfwelydd Adelaide a John, a ffotograffau a gymerwyd o lyfr llofnodion amser rhyfel Adelaide sy'n cynnwys lluniadau llaw, cerddi a llofnodion gan bersonél benywaidd a gwrywaidd yr RAF y bu iddi wasanaethu gyda nhw yn RAF Little Rissington rhwng 1943-46.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment