Adloniant a Hamdden yn Rhyl dros y degawdau
Mae'r casgliad hwn o gardiau post o'r 20g ganrif yn dangos yr amrywiol weithgareddau hamdden ac adloniant sydd wedi bod yn boblogaidd yn y cyrchfan glan-môr hwn dros y blynyddoedd. Cafodd y Marine Lake, sef argae 12 hector a grewyd yn bwrpasol ar gyfer nofio a chychod ei agor yn swyddogol yn 1895, ac yn 1910 bu o gwmni Rhyl Amusement Company ei gymryd drosodd gan ddatblygu ffair ar hyd rhan o'r glannau. Mae rheillffordd y Minature Railway, a agorwyd yn 1911, yn dal i fynd o amgylch y llyn a hwn yw'r unig un o'r atyniadau gwreiddiol sy'n parhau i fod ar agor. Mae Rhyl wedi bod yn enwog am ei atyniadau dŵr ers blynyddoedd lawer, o byllau nofio dan do a thu allan, amrywiol lithrenni dŵr a'r enwog Heulfan a agorodd ei ddrysau yn 1980.