Pafiliwn, Pier a Phromenad y Rhyl
Casgliad o gardiau post yn dangos Pafiliwn a Phromenad y Rhyl yn yr oes Fictorianaidd ac Edwardaidd, yn ogystal ag yn negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif. Roedd Pafiliwn addurniedig y Rhyl gyda'i phum cromen wedi bod yn dirnod yn y dref ers degawdau lawer, ond cafodd ei ddymchwel yn 1974. Cafodd Pier y Rhyl, a adwaenid yn swyddogol fel Pier Victoria, ei agor yn 1867; hwn oedd y cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru, ac roedd yn ymestyn dros hanner milltir i'r môr. Dros y blynyddoedd cafodd ei niweidio gan longau a thywydd garw, yn ogystal â thân sylweddol yn 1901, a bu'n rhaid ei gau ar sawl achlysur. Cafodd ei ailagor, wedi iddo gael ei wneud yn fyrrach yn 1930, ond yn y diwedd cafodd ei gau am byth yn y chwedegau a'i ddymchwel yn 1973.