arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Owain Glyndŵr

Ganwyd Owain Glyndŵr i deulu uchelwrol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ym 1354. Roedd ei dad, Gruffudd Fychan, yn etifedd i dywysogion Powys Fadog, a hanai ei fam, Elen ferch Tomos ap Llywelyn o linach tywysogion Deheubarth. Owain Glyndŵr neu Owain ap Gruffudd neu Owain Glyndyfrdwy oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Arweiniodd y Cymry mewn gwrthryfel yn erbyn Brenin Lloegr rhwng 1400-1415, gwrthryfel a ddechreuodd ar 16 Medi, wrth i'w ymgyrch ymledu drwy'r gogledd-ddwyrain.

Ar 12 Ionawr 1405 arwyddwyd cytundeb ffurfiol gyda brenin Ffrainc i gynghreirio yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr. Yna, ychydig dros fis yn ddiweddarach, ar 28 Chwefror 1405, arwyddwyd y Cytundeb Tridarn rhwng Owain a'i gynghreiriad Henry Percy, Iarll 1af Northumberland (tad Hotspur) ac Edmund Mortimer. Roedd y cytundeb yma'n rhannu Ynys Prydain (heb gynnwys yr Alban) rhyngddynt fel penaethiaid sofran, annibynnol.

Fodd bynnag, er bod dogfen bwysig yn gosod allan bwriadau'r tywysog wedi ei llunio yn sgil cynulliad o'r Cymry ym Mhennal ger Machynllyeth ym mis Mawrth 1406, a bod llythyr wedi ei anfon gan Owain at y Brenin Siarl VI o Ffrainc yn amlinellu amodau ei deyrngarwch iddo, troi wnaeth llanw'r gwrthryfel. Dechreuodd Brenin Lloegr adennill rhai o'i diroedd yng Nghymru a chipio cestyll yn ol i'w feddiant. Ni wyddom lawer am hanes Owain wedi 1412 ac mae ansicrwydd hefyd ynghylch union amgylchiadau a dyddiad ei farwolaeth. Cofir amdano fel gwladweinydd medrus ac arweinydd dewr a fu'n ysbrydoliaeth i genedlaetholwyr ar hyd y canrifoedd. Dros y blynyddoedd daeth llawer i uniaethu Owain Glyndŵr gyda chwedl 'Y Mab Darogan', sef yr un fyddai'n dod i arwain y Cymry i fuddigoliaeth derfynol yn erbyn y Saeson.

Mae'r casgliad hwn yn cynnwys sel Owain Glyndŵr, portreadau celfyddydol ohono ar ffurf paentiadau a chofebau, yn ogystal â ffotograffau a gweithiau celf o leoliadau o bwys yng Ngwrthryfel Glyndŵr

Mae 9 eitem yn y casgliad

Sêl Owain Glyndŵr

  • 234
  • mewngofnodi

Cerflun o Owain Glyndwr

  • 1,996
  • mewngofnodi

'Owain Glyndwr's Parliament House, Dolgellau'...

  • 1,875
  • mewngofnodi

Bwa Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth, 2008

  • 83
  • mewngofnodi

Darn o drawst derw

  • 538
  • mewngofnodi

1359 - Owain Glyndwr - 1416

  • 81
  • mewngofnodi

Castell Harlech

  • 331
  • mewngofnodi

Castell Cricieth

  • 569
  • mewngofnodi

Arfbais Owain Glyndŵr

  • 323
  • mewngofnodi

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw