Casgliad Prosiect Maelgi Cymru
Rhywogaeth brin o siarc gydag esgyll hirion sy’n llithro ar draws gwely’r môr yw’r Maelgi. Ar un adeg roedd yn gyffredin ar draws gorllewin Ynysoedd Prydain ond mae’r Maelgi bellach Mewn Perygl Difrifol. Ar ôl dioddef dirywiad helaeth ar draws ei gynefin dros y ganrif ddiwethaf, cafwyd nifer cynyddol o adroddiadau am ymddangosiad y rhywogaeth brin hon ar hyd arfordir Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn yn rhoi gobaith am ei dyfodol.
Mae’r Casgliad hwn yn cyd-fynd â’r adnodd dysgu Angylion Cymru ar gyfer Cyfnod Allweddol 2.