Edward Evans (1964-). Llynges Frenhinol, Llanelli

Mae'r Comander Edward Evans yn cofio ei yrfa yn y Llynges Frenhinol, gyda lluniau cysylltiedig.
Ganwyd Edward Evans yng Ngorseinon yn 1964 a threuliodd ei fywyd cynnar yn Llanelli. Ychydig iawn o ddiddordeb oedd ganddo yn yr ysgol, ond ysbrydolwyd Edward gan hysbyseb papur newydd i ymuno â'r Llynges Frenhinol a dechreuodd ar ei hyfforddiant yn HMS Raleigh fel morwr iau (gweithredydd) (2il ddosbarth) ym mis Mai 1981. Yn dilyn hynny, gwasanaethodd yn HMS Renown cyn llwyddo i gael ei ddethol fel swyddog drwy'r Admirality Interview Board yn 1984 a chael ei dderbyn i Goleg Llynges Frenhinol Britannia yn 1985. Ar ôl cwblhau hyfforddiant arbenigo fel Swyddog Cyflenwi ac Ysgrifenyddol yn 1986, gwasanaethodd Edward wedyn mewn nifer o apwyntiadau ar y môr ac nes sicrhau dyrchafiad i safle Comander. Ei benodiad olaf cyn ymddeol o fod yn gwasanaethu oedd fel Prif Swyddog HMS Temeraire, sef sefydliad ar y lan yn Portsmouth. Yna ymddeolodd i fyw yng nghartref ei deulu yn Hilton, Cumbria.

Mae 8 eitem yn y casgliad