Dyddiaduron ymweliadau â Llundain gan Lillie White ym 1891, 1894 a 1902

Mae'r dyddiaduron hyn yn ymwneud â thri ymweliad â Llundain, Medi-Hydref 1891, Mai-Mehefin 1894 a Mai-Gorffennaf 1902, gan chwaer Lucy, Lillie, a'u Modryb Georgie.
Mae'r cofnodion yn disgrifio eu taith o Gaerfyrddin i Paddington ar y trên, gan ymweld â nifer o henebion a safleoedd enwog Llundain gan gynnwys yr Oriel Genedlaethol, eglwys St Martin, Eglwys Gadeiriol St Paul, Abaty Westminster, yr Amgueddfa Brydeinig, Sefydliad India, y Sefydliad Imperial, Sgwâr Trafalgar, yr Mall, ac ati.
Fe wnaethant hefyd ymweld â siopau fel Whiteleys, Mappin Bros, a gerddi fel Gerddi’r Arglawdd a Pharc St James.
Ymwelwyd â'r theatr, a'r bale yn ogystal â Chanolfan Arddangos Earls Court. Roedd eu dyfodiad i Lundain ym 1902 yn cyd-daro â'r datganiad heddwch ar ôl Rhyfel y Boer. Nod yr ymweliad hwnnw ym 1902 oedd gweld Coroni Edward VII, a drefnwyd ar gyfer Mehefin 23ain. Cymerwyd y Brenin yn sâl ychydig cyn y dyddiad hwnnw ac felly gohiriwyd y Coroni tan fis Awst.
Mae cofnodion y dyddiadur yn ymdrin â disgrifiadau o fynd i weld bwletinau yn cael eu postio y tu allan i Balas Buckingham ynghylch iechyd y Brenin a gweld amrywiol aelodau o'r teulu brenhinol yn mynd i ymweld â'r Brenin.

Mae 3 eitem yn y casgliad

  • 483
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 498
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 721
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi