Eglwys heb Eglwys

Adeiladwyd hen adeilad yr Eglwys neu Corporation Road Forward Movement fel y'i gelwid ar y pryd, yn 1900 yn ystod cyfnod y Diwygiad yng Nghymru pan welwyd cynnydd sylweddol yn y rhai a fynychai'r Eglwys. Codwyd adeiladau i wasanaethu fel eglwysi yn eithriadol o sydyn; fodd bynnag cafodd yr adeilad hwn ei adeiladu heb sylfaeni bron â bod.
Yn ystod yr 1960au, roedd y diwydiant dur yng Nghasnewydd yn ffynnu - roedd niferoedd mawr o loriau yn cludo siâl i waith dur Llanwern ar hyd Corporation Road. Mae'n bosib bod hyn wedi cyfrannu at wneud sylfeini'r adeilad yn ansad. Ymddangosodd crac yn nenfwd y Prif Neuadd. Fe wnaeth bricsen ddod yn rhydd a bron â chwympo ar un aelod o'r gynulleidfa.

Mae 9 eitem yn y casgliad