Abertyleri - Casgliad Martin Ridley

Dyma gasgliad bychan o rai delweddau o Abertyleri gafodd eu tynnu gan y ffotograffydd masnachol Martin Ridley tua 1905. Mae casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru o waith y ffotograffydd hwn yn cynnwys 800 o negatifs gyda'i gilydd ac mae nifer ohonynt yn cynnwys golygfeydd o Abertyleri. Ni wyddom yn union pam fod cymaint o ddelweddau o'r dref hon wedi eu tynnu ganddo ond mae'r detholiad hwn yn cynrychioli amrywiaeth o adeiladau, golygfeydd o'r dref, ac o'r diwydiant glo a oedd wrth galon y gymuned yn Abertyleri.

Mae 5 eitem yn y casgliad