'One Hundred Years of Welsh Calvinistic Methodism in America' gan y Parchedig Daniel Jenkins Williams, PhD., DD., cyhoeddwyd yn 1937

Roedd Daniel Jenkins Williams a’i frodyr a’i chwiorydd yn perthyn i’r drydedd genhedlaeth o deulu Cymreig-Americanaidd yng nghefn gwlad Wisconsin. Bu i’w cyndeidiau fudo o Ynys Môn ym 1846 gyda’u tad, a oedd ar y pryd yn ddyflwydd oed. Fe wnaeth y rhan fwyaf o wladfawyr Waukesha County – ychydig gannoedd ohonynt – gyrraedd yn ystod y ddegawd honno; roedd y rhan fwyaf ohonynt yn llythrennog ac yn Fethodistiaid Calfinaidd defosiynol, ond prin oedd eu haddysg ar wahân i’w gwybodaeth drylwyr o’r Beibl. Byddai rhieni Daniel, a’u rhieni hwythau, yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd, a thros y degawdau sicrhaodd eu gwaith caled ar y fferm, Glandyffryn (gafodd ei phrynu gan y llywodraeth) ei bod yn fenter lwyddiannus. Fodd bynnag, er bod aelodau o’r drydedd genhedlaeth, a hwythau’n oedolion ifanc, yn dal i ddychwelyd i helpu gyda’r cynhaeaf bob haf, dewis peidio â mynd i ffermio a wnaethant. Erbyn 1895 roedd Daniel yn Weinidog Calfinistaidd Cymreig ordeiniedig ac yn fyfyriwr ar ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Wisconsin. Wedi graddio, mynychodd yr ‘Union Theological Seminary’ yn Efrog Newydd am dair blynedd, ac yna teithiodd dros y dŵr – taith ei gyndeidiau o chwith – er mwyn astudio ym Mhirfysgol Rhydychen ac i gwrdd â pherthnasau yn ‘yr hen wlad’. Roedd yn areithiwr talentog yn Saesneg ac yn Gymraeg. Yn wir, gwnaeth gymaint o argraff ar ei gydnabod yn Ynys Môn fel y bu iddynt gynnig Taith bregethu iddo yn ystod ei wyliau dros y Nadolig.

Dechreuodd ei yrfa fel gweinidog Presbyteraidd pan ddychwelodd i Wisconsin, i’r trefi melinau coed gogleddol. Aeth ymlaen i fod â gofalaeth yn Columbus, Ohio, yn Oshkosh ac yn Wausau yn Wisconsin, yn Cedar Rapids, Iowa, ac yna unwaith eto yn Columbus a Wausau. Bu’n gwasanaethu fel gweindog dros y gaeaf mewn cyfres o eglwysi bychain ar hyd a lled Florida. "Gyda’i ddyfodiad ef," ysgrifennodd ei fab, "fe esgorodd pob eglwys y bu’n gweinidogaethu arni ar gyfnod o dwf ac o weithgaredd brwd".

Mae 34 eitem yn y casgliad

  • 329
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 494
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 344
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 336
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 350
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 363
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 346
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 316
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 339

  • 338
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 380
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 349
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 376
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 337
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 401

  • 480
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 541
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 532

  • 484
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 324
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 511
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 507
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 524
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 382
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 408
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 390

  • 387
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 406
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 386

  • 470
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 554