Postmon David Lewis Jones
Casgliad o ffotograffau, a dynnwyd gan Geoff Charles, yn rhan o nodwedd arbennig yn 'Y Cymro' ar 8 Medi 1855. Cymerodd y postmon David Lewis Jones naw awr i gwblhau ei rownd yn yr ardaloedd anghysbell rhwng Tregaron ac Abergwesyn, er mai dim ond wyth tŷ oedd ar ei rownd. Roedd yn dosbarthu'r llythyrau ar gefn ceffyl, a dyma un o'r tai y byddai'n ymweld â hwy.