arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Dawn a Georgia

Mae Georgia a Dawn wedi bod yn ffrindiau ers wyth mlynedd. Fe wnaethon nhw gyfarfod ym Mencap Cymru, lle buont yn gweithio gyda'i gilydd am dair blynedd. Mae gan Dawn anabledd dysgu ond nid oes gan Georgia anabledd.

Datblygodd eu cyfeillgarwch yn ystod eu cyfnod yn gweithio gyda'i gilydd. Fe wnaeth Georgia gefnogi Dawn yn y gwaith a thu allan. Mae Georgia wedi rhoi cyngor i Dawn ar ei bywyd carwriaethol ac wedi'i helpu i symud tŷ.

Maen nhw'n mwynhau mynd allan am fwyd a diod. Heddiw, mae Dawn yn byw ymhell i ffwrdd o Georgia ac ni fyddai trafnidiaeth gyhoeddus yn gwneud y daith yn un hawdd. Felly, weithiau, mae Dawn wedi teithio ac aros dros nos yn nhŷ Georgia.

Mae 6 eitem yn y casgliad

  • 145
  • mewngofnodi
  • 152
  • mewngofnodi
  • 215
  • mewngofnodi
  • 177
  • mewngofnodi
  • 179
  • mewngofnodi
  • 98
  • mewngofnodi

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw