Atgynhyrchiad o frigwn Capel Garmon
Gwnaed copi arbrofol o frigwn Capel Garmon ym 1991 gan y gof a’r artist, David Petersen. Datgelodd y gwaith ail-greu ragor am wneuthuriad y darn gwreiddiol.
Tua tri yn y bore bach, ar ben eich hun yn y gweithdy, wedi ymgolli yn y project, rydych chi’n cyrraedd yr un meddylfryd. Rydych yn gallu uniaethu â theimladau’r crefftwr gwreiddiol.
[David Petersen]
Amcangyfrifodd Petersen fod gof Oes yr Haearn wedi treulio tair blynedd yn ei greu, o fwyndoddi’r haearn i’r gwaith gorffenedig. Trwy luniau peledr-X, darganfuwyd bod 85 darn unigol o haearn gyr yn y brigwn. Does dim amheuaeth byddai wedi bod yn ddarn arwyddocaol a gwerthfawr i’w berchennog.