Brigwn Capel Garmon

Mae brigwn Capel Garmon yn gampwaith o Oes yr Haearn, a wnaed dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
Darganfuwyd y brigwn gwreiddiol ym 1852 gan was fferm ger Carreg Goedog, Capel Garmon. Roedd wedi ei gladdu ar ei ochr yn ddwfn yn y mawn gyda charreg fawr ar y naill ben a’r llall.
Yn wreiddiol, roedd yn un o bâr fyddai wedi eistedd naill ochr i brif aelwyd tŷ crwn pennaeth yn Oes yr Haearn. Gellir gweld siâp pen anifail ar y naill ben a’r llall. Mae’n debyg i geffyl, ychen, neu greadur chwedlonol hyd yn oed.

Mae 1 eitem yn y casgliad

  • 593
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi