Skip to main content

Cwrwgl a Chawell

Roedd afonydd Dyffryn Conwy yn gyforiog o bysgod, gan gynnwys eog a brithyll y môr neu sewin. Rhwng aber afon Conwy a rhaeadrau Betws-y-coed defnyddiwyd nifer o ddulliau pysgota, yn eu plith pysgota â chwrwgl a chewyll.

Cwch bach, hirgrwn, heb gilbren, ar gyfer un pysgotwr yw cwrwgl Dyffryn Conwy. Byddent yn cael eu defnyddio mewn parau gyda rhwyd yn ymestyn rhyngddynt. Ar ôl llusgo’r rhwyd i lawr yr afon byddai’r pysgotwyr yn gorfod cario’r cwryglau yn ôl ar eu cefnau.

Lluniwyd cwryglau drwy orchuddio ffrâm o ddelltennau pren â chroen anifail. Erbyn y 1800au defnyddiwyd cynfas wedi ei gorchuddio â phyg neu dar.

Gwelediadau:
1211
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
24/07/2019

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment