Melin Wlân Penmachno
Am dros ganrif a hanner, roedd y diwydiant gwlân yn ganolog i fywyd pentref Penmachno.
Ym 1839 agorwyd pandy yno, uwchlaw’r afon ar dir yn eiddo i Stad Penrhyn. Ym 1894 datblygwyd y pandy yn felin wlân gan Hannah Jones a’i meibion.
Erbyn 1913 roedd y teulu wedi prynu’r safle, ac yn y flwyddyn honno, ailadeiladwyd y felin a’i llenwi â pheiriannau newydd. Bu’r Jonesiaid a’u staff yn gwehyddu carthenni a brethyn yno tan 1968 pan fu farw’r mab olaf, John Rees Jones.
Ym 1974 daeth bywyd newydd i Felin Penmachno pan werthwyd y busnes i Craftcentre Cymru. Daeth y fenter honno i ben ym 1992, a chaeodd y felin ei drysau am y tro olaf ym 1997.