Telyn Deires John Richards

Roedd Llanrwst yn adnabyddus am ei gwneuthurwyr telynau, yn enwedig y delyn deires. Yr enwocaf oedd John Richards a aned yn y King’s Head, ym 1711.

Ym 1755 lluniodd delyn i un o delynorion disgleiriaf y cyfnod, John Parry, ‘Y Telynor Dall’. Roedd yn delynor i’r Brenin Siôr III, yn ffrind i Handel, ac yn gasglwr cerddoriaeth Cymreig.

Ym 1759, symudodd John Richards o Lanrwst i Sir Gaerfyrddin i weithio i’r bonheddwr Sackville Gwynne, Glanbrân. Fe’i cyflogwyd i lunio telynau yn rhoddion i delynorion oedd yn ymweld â’r plasty.

Bu farw John Richards yng Nglanbrân ym 1789. Caiff ei ddawn ei chydnabod hyd heddiw ac mae ei delynau mewn casgliadau amgueddfeydd ledled y byd, o Efrog Newydd a Boston i Lundain a Berlin.



Mae 3 eitem yn y casgliad

  • 490
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 551
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 475
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi