Crefftau Dyffryn Conwy

Mae traddodiad hir o grefftau gwerin yn Nyffryn Conwy. Cyfoeth naturiol y dyffryn a ddarparodd yr holl ddeunyddiau crai – coed i lunio telynau a chwryglau, gwlân i’w wehyddu, metel i’w siapio gan ofaint a cherrig i naddu yn offer.
Yn arwyddocaol, yma yn Nyffryn Conwy y cynhaliwyd yr arddangosfa gelf a chrefft gyntaf mewn adeilad pwrpasol ar faes y brifwyl, yn Eisteddfod Llanrwst 1951.
Dyma gyfle i ddathlu gwaith rhai o grefftwyr Dyffryn Conwy dros y canrifoedd yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.

Mae 2 eitem yn y casgliad