Murluniau Cofiwch Dryweryn
Ym mis Chwefror 2019, peintiodd rhywun y gair 'Elvis'; dros Wal Cofiwch Dryweryn yn Llanrhystud - cofeb answyddogol i foddi pentref Capel Celyn ym 1965 er mwyn gwneud cronfa ddŵr ar gyfer trigolion Lerpwl. Ailbaentiwyd y wal gan grŵp o wirfoddolwyr gyda'r geiriau gwreiddiol 'Cofiwch Dryweryn'; ond cafodd y wal ei chwalu gan fandaliaid unwaith eto. Mewn ymateb i hyn dechreuodd y slogan 'Cofiwch Dryweryn'; ymddangos ar hyd a lled Cymru. Dyma gasgliad o rai o'r murluniau hyn.