Taith Arddangosfa 40 Llais 40 Mlynedd
Mae Deugain Llais, Deugain Mlynedd yn brosiect treftadaeth dan arweiniad Cymorth i Fenywod Cymru mewn cydweithrediad â Chanolfan Adrodd Straeon George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru. Mae atgofion, lleisiau a bywydau menywod
wedi eu hepgor aml o'n treftadaeth genedlaethol, felly nod y prosiect hwn yw dal yr hanes cudd hwn, gan ddathlu ein 40fed blwyddyn a chofnodi gwaith mudiad Cymorth i Ferched yng Nghymru.
Bydd yn gwneud hyn gyda chasgliad o hanesion llafar, straeon digidol, deunyddiau arddangos ac archifau gan fenywod a gwasanaethau.