Sgwneri yn y Rhyfel

Gyda dechrau’r rhyfel ym 1914 daeth y fasnach lechi bwysig iawn â Hamburg a’r Baltig i ben. Erbyn i ryfela dilyffethair gan longau tanfor yr Almaen ddechrau yn gynnar ym 1917, dim ond ychydig o longau a oedd yn dal ym meddiant perchnogion lleol. Gan fod y cychod hwylio hyn yn dargedau hawdd i’r llongau-U, roedd dynion yn amharod I hwylio arnynt, ac ni fyddai ganddynt griw llawn yn aml. Cafodd chwech ohonynt eu suddo gan y gelyn a phan ddaeth y rhyfel i ben dim ond yr ELIZABETH a’r DAVID MORRIS oedd ar ôl.

Y chwe sgwner o Borthmadog a suddwyd gan y gelyn:
ELIZABETH ELEANOR adeiladwyd 1903. Capten John Mathias Jones, Cricieth. Cafodd ei stopio a’i suddo gan ynnau 77 milltir i’r gogledd-orllewin x gorllewin o Trevose Head ar 13 Mawrth 1917 gan yr U 70, KapLt Otto Wünsche.
ELLEN JAMES adeiladwyd 1904. Capten Richard Cadwalader Jones, Cricieth. Cafodd ei stopio a’i suddo gan ynnau i’r gorllewin o Ushant ar 3 Ebrill 1917 gan yr UC 71, KapLt Hans Valentiner.
JOHN PRITCHARD adeiladwyd 1906. Capten William Watkin Roberts, Pentrefelin. Cafodd ei stopio a’i suddo i’r dwyrain o Ynys Paxos, Groeg ar 30 Mawrth 1916 gan y k.u.k. U 4 (Awstriaidd), LSL Rudolf Singule.
MARY ANNIE adeiladwyd 1893. Cafodd ei stopio a’i suddo 28 milltir i’r de-dde-orllewin o Beachy Head ar 25 Mawrth 1917 gan yr UC 69, KapLt Erwin Waßner.
MISS MORRIS adeiladwyd 1896. Capten William O. Morris, Porthmadog. Cafodd ei stopio a’i suddo 20 milltir i’r de-ddwyrain o Garrucha, Sbaen ar 11 Ebrill 1917 gan yr U 35, KapLt Lothar von Arnauld de la Perière.
ROBERT MORRIS adeiladwyd 1876. Capten David Davies, Cricieth. Cafodd ei stopio a’i suddo 155 milltir i’r gorllewin-dde-orllewin o Bishop Rock ar 20 Tachwedd 1917 gan yr U 90, KapLt Walter Remy.


Awgrymwyd y deyrnged hon gan Robert Cadwalader. Ar y cyd ag Amgueddfa'r Môr Porthmadog.

Mae 5 eitem yn y casgliad