Project Digidol Gorau!
Ysgol Gynradd Albany—Enillwyr 2015 am broject Ysbyty Milwrol Rhyfel Byd Cyntaf
Bob blwyddyn bydd Pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn gwahodd holl ysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cystadlaethau projectau treftadaeth cenedlaethol.
Caiff y gair 'treftadaeth' ei ddefnyddio yn ei ystyr ehangaf—i gynnwys pobl a’u hanes cymdeithasol, crefydd, traddodiadau, diwylliant, byd gwaith, amaeth, diwydiant, cyllid, masnach, gwyddoniaeth, technoleg, celf a chwaraeon.
Mae manylion llawn y gystadleuaeth i’w cael yma: gwefan WHSI.
I Gystadlu yn y Categori Project Digidol:
- Dewiswch bwnc sy'n ymwneud â 'Threftadaeth' er mwyn cystadlu yng Nghystadleuaeth WSHI
- Gwnewch broject sy'n cynnwys deunydd digidol
- Uwchlwythwch eich project ar wefan CyW
- Gallech Ennill Gwobr i'ch ysgol!
Cymorth a hyfforddiant ar ddefnyddio Casgliad y Werin Cymru ar gael AM DDIM!
Ffurflen Y Gystadleuaeth
Rhaid gyrru eich ffurflen ymgeisio erbyn (DYDDIAD CAU WEDI'I YMESTYN) 19 Chwefror 2016. Bydd y projectau yn cael eu beirniadu rhwng 18 Ebrill a 6 Mai.