Astudiaeth archaeoleg o Glawdd Offa

Eitemau yn y stori hon:

  • 472
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 551
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 443
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Clawdd Offa yw un o ryfeddodau peirianneg mawr y cyfnod cyn-ddiwydiannol. Adeiladwyd y gwrthglawdd llinellol hwn gan y Brenin Offa (757-96) o deyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia, fel rhwystr yn erbyn pobl Cymru. Mae’r ymateb hwn i bwˆer y rheolwyr yng Nghymru yn parhau i lywio ein barn ynghylch maint a hunaniaeth Cymru. Mae Clawdd Offa, a’i estyniad gogleddol, y cyfeirir ato’n aml fel Clawdd Wat, yn parhau i fod yn nodweddion archaeolegol amlwg yn y tirlun.


 


Roedd Syr Cyril Fox yn archaeolegydd o fri ac yn Gyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru rhwng 1926 a 1948. Treuliodd wyth haf yn olynol, rhwng 1925 a 1932 yn cynnal arolwg o Glawdd Offa a Chlawdd Wat. Disgrifiodd ei waith fel cyfres o deithiau,


gyda llyfr nodiadau a chamera, lefel a ffon. Mae astudiaeth Fox o’r gwrthgloddiau hyn yn parhau i fod yn gofnod hanfodol gan fod rhai o’r rhannau a oedd yn bodoli yn ystod arolygon Fox wedi cael eu dinistrio erbyn hyn.


 


Gwelwch y casgliad llawn o luniau.



Gwelwch y casgliad llawn o luniau.