Dylan Thomas

Eitemau yn y stori hon:

  • 2,425
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Bywyd Dylan Thomas

"Do not go gentle into that good night" - geiriau Dylan Thomas wrth weld ei dad yn marw ym 1952 - "Rage, rage against the dying of the light": dyma un o’r cwpledi a ddyfynnir amlaf o blith barddoniaeth Saesneg.

Llai na blwyddyn ar ôl hynny, bu farw Thomas ei hun. Credir bod meddyg o Efrog Newydd wedi rhoi gormod o forffin iddo. Roedd eisoes wedi hawlio’r lle prinnaf ymhlith llenorion, sef bardd byd-enwog.

Ganed Thomas yn Abertawe yn 1914 ac yno, yn ei gartref, byddai’r Dylan ifanc yn hoffi galw ei hun yn "The Rimbaud of Cwmdonkin Drive". Roedd hynny yn jôc broffwydol. Roedd barddoniaeth y ddau wedi cyrraedd y brig cyn iddynt farw’n eu tridegau.

Mae bywgraffiadau Thomas yn anorfod yn canolbwyntio ar ei yfed, ei ddyledion, a siomi ei ffrindiau, ond hefyd roedd yn ddisgybledig o uchelgeisiol. Dyna a wnaeth iddo adael swydd ddiogel gyda’r South Wales Evening Post yn sydyn i chwilio am enwogrwydd - os nad ffortiwn - yng ngoleuadau llachar Llundain.

Gwnaeth Thomas ei farc ym 1934 pan gyhoeddwyd ei 18 Cerdd, a oedd yn cynnwys un o’i weithiau mwyaf clodwiw: "The Force that Through the Green Fuse Drives the Flower". Mae’n ddatganiad egnïol o lencyndod yn ogystal â chydnabyddiaeth stoicaidd o natur anochel marwolaeth.

Dilynodd ail gasgliad ym 1936 pan gyfarfu â’i ddarpar briod Caitlin. Roedd ganddi hithau dymer wyllt ac felly stormus iawn oedd y berthynas yn aml. Ymgartrefodd y ddau yn y pen draw yn Nhalacharn yn Sir Gaerfyrddin. Yn ddiweddarach, disgrifiodd hi’r cyfnod hwn fel yr hapusaf o’u bywyd gyda’i gilydd. Mae’r Boat House yno, ble yr ysgrifennodd nifer o’i weithiau mwyaf adnabyddus, yn fan pererindod i nifer sy’n edmygu ei waith.

Roedd galw mawr am Dylan fel awdur ac fel darlledwr. Mae ei lais cyfoethog a’i gyflwyniad meistrolgar yn nodweddu ei ddarllediadau yn y BBC yng Nghaerdydd, Abertawe a Llundain, ac mae adlais ohonynt drwy’r degawdau ar gael mewn nifer o recordiadau. Roedd ei gerdd epig Under Milk Wood wedi ei hysgrifennu, fel llawer o’i waith, er mwyn ei chlywed yn llawn cymaint â’i darllen.

Tra bydd rhai yn dadlau bod Cymru wedi cynhyrchu beirdd gwell, nid oes yr un ohonynt wedi cyffwrdd â chymaint o bobl mor ddwfn â Dylan Thomas.

Bu farw mewn ysbyty yn Efrog Newydd ar 9 Tachwedd 1953.