Dr Ceinwen H Thomas: 'Claim Colyn y Nidir' a Gwella'r 'Wen Fawr'

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,097
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Gan: Ceinwen H Thomas, Caerdyff (gynt o Nantgarw, Morgannwg)

Ma dyn yn clywad pethach rhyfadd weithe wrth drio câl sboniad ar ryw air neu ryw wetiad diarth. Meddyliwch am y stori a glwas i nawr pan gofynnas i beth odd ‘fel y glaim’ yn ’i feddwl. Ffordd o wed bod rhywun yn iech iawn yn Nanciarw, wi’n cofio, odd gwed i fod e ‘fel y glaim’. Wyddiwn i ar dduar beth oedd claim, neu glaim, beth bynnag odd e, a pyn gofynnais i rywbryd i mam, medda ’i :
‘Wel, wir, wn i ddim, os taw naci claim colyn y nidir.’
Wel, own i damed callech o glwad ’nny, waeth own i riôd wedi clywed sôn am glaim colyn y nidir chwaith, cyn y funad ’nny.
‘Beth yw claim colyn y nidir, ’ta’, meddwn i.
‘Wel, mi weda ’that ti, nawr’, medda hi. ‘Stori a glwas i gin y mam’, sef ’y mam-gu i, yntyfe. A fe weta i ’ynna’n awr wrthach chitha. Stori mam-gu am glaim colyn y nidir.

Odd ’y mam-gu, mam ’y mam, wedi colli ’mam yn ifanc iawn, ac ’i gas ’i chwnnu gan ’i ewyrth a’i modryb yn fferm Riwddêr ar bwys pentre Glan Llyn. A gyda nw bu nes iddi brioti yn ddunaw ôd.

Wel, ryw fora, pan oedd mam-gu yn les-groten, dyma ewyrth yn gwed wrthyn nw yn y tŷ i fod a’n mynd i wilo am gwpwl o ddefid odd wedi crwydro. A ffwr ag e. Fe fuodd trw gorff ’ydol y dydd, heb ddod tua thre i gino na dim. A erbyn bod hi’n dechre brico nos, medda mam-gu, odd ’i modryb yn dechre cythryblu, rac ofan bod rwbeth wedi dicwydd iddo. Ond cyn iddi nosi’n reit, dyma fa i’r tŷ yn cario rwbath yn ’i nishiad yn ’i law.
‘Ffindaist ti’r defid, Dafydd?’ medde modryb Siên wrthodo.
‘Neddo i’, be fynte. ‘Fuo i ddim pellach na Choed y Castell.’ Castell Coch odd a’n feddwl. ‘A welas i ddim picyn nac asgwrn o’r defid yn unman.’
‘Wel, ble buot ti c’yd, ’ta’, medda ’i. ‘Fuot ti ddim yn y coed drw gorff ’ydol y dydd, dos bosib.’
‘Wel, do i’, medda fe. ‘Ac aros nawr i fi gal gwed wrthot ti.’
A medda fo wrth y merched – ’y mam-gu i a’r forwn odd rheini.
‘Welsoch chi glaim colyn y nidir eriôd, ferched?’
‘Neddo ni’, medde nwnta.
‘Wel, dyma un’, medda’n ewyrth Dafydd. A fe dynnws ryw gylch bach o’i nishiad. Bothdu ddwy fodfadd falla ar draws, a rwbath llai na dwy fodfadd o led. A bothdu ’annar modfadd neu fwy o drwch. Odd a’n beth llifin, ac yn dishgliro tipyn bach. Ac o ran ’i liw, odd a’n ddicon tebyg i asgwrn neu eifori, medda mam-gu.
‘Ffordd cethot ti afal yndi’, medda modryb Siên.
‘Wel’, ba fe, ‘fe weda ’tha ti nawr. Fe eutho i i Goed y Castell, on i’n gweud wthoch chi, i ddisgwl am y defid, a mi fuo am sbel yn crwydro trwy’r coed ac yn sytan dyma fi’n gweld nidir, ac un arall, ac un arall eto, a mi geso fraw. Waeth odd y coed yn sytan yn gwhifid o nadredd. A’r reiny’n dod tuag ata i o bob cyfeiriad, debycswn i. Ac on i’n clwad ’u siffrwd nw fel y gwynt. A peth mwya ryfadd a glwas i riôd. A dyma fi’n ’sgynnu i’r pren nesag ato i, i gal mynd o’r ffor’, ac i gal gweld beth odd.

Fel digwyddws ’i, odd y pren on i arno ar gornal ryw le ’gorad, main, ’ir yn y coed, a unwaith on i wedi tringad yn ddicon uchal ar ’wnnw, fe welwn taw suag at y lle ’yn odd yr oll nadradd yn tynnu. A wedi cyrradd, nw aethon yn un pentwr mawr ar ben ’i gilydd, yn genol y lle ’gorad ’yn. Na welas i shwt beth eriôd. Ac yno lle buo nw am oria yn gweu ac yn plethu trwy’i gilydd, a’i si nw’n ddigon i ’ala ’eth [aeth = ofn] arnot ti. Odd gormod o fraw arno i i drio dod odd’nw, a ’efyd, oddwn i’n mofyn gweld yr itha. Waeth on i wedi clwad sôn bod nadradd yn neuthur beth fel hyn weithe. Wel, mynny buon nw, yn plethu’n ddi-stop trwy’i gilydd, nes i’r oil [haul] ddechra dishgyn y tu ôl i Fynydd y Giarth, a pryt ’ynny, yn sytan, fel ta rywun wedi roi arf yn gwmws, dyma nw’n dechra mysgu ’rwrth ’i gilydd, a mwn dim amsar, on nw wedi mynd nôl trwy’r coed a diflannu, fel te dim nidir yn y cyffinia. Y cyfan ond un. Odd un nidir ar ôl, yn y man lle odd y pentwr wedi bod, yn gorwedd ar ’i ’yd yn gelan. A rwbath am ’i chorff ’i. Wedi fi weld bod y nadradd erill wedi mynd i gyd, dyma fi lawr odd ar y pren, a suag ati, ac yn tynnu’r peth odd amdeni i lawr drws ’i chwt ’i. Fi wyddiwn yn iawn beth odd e, claim colyn y nidir. A dyma ’i. Wi wedi clwad lawar o sôn am nadradd yn mynd yn bentwr felna i wneuthur y glaim.’
‘A finna gyda ti’, medda modryb Siên. ‘Wel, wel, a dyma’r glaim.’

Fe âth y sôn am y glaim yn Riwddêr ar led trw’r ardal, medda mam-gu, fel basach chi’n dishgwl. A dyma fenyw o’r pentra’n dod aco i ofyn am ’i mencid ’i. Odd wen fawr ar wddwg ’onno, a odd i wedi clwad bod claim colyn y nidir yn gwella wen. ’I gas ’i mencid ’i ar unwaith, bid siŵr, a’i ddotws ruban trwyddi, a’i chlymu ’i ar y wen. A felny bu, sbo, am wthnosa, yn gwisgo’r glaim ar y wen. Ac yn wir, fe êth y wen yn raddol, ac fe ddâth gwddwg y fenyw fel gwddwg rywun arall.

A wedi ’ny, dyma’r glaim yn cal dod nôl i Riwddêr. A nw sylswn nwnta ’i bod ’i wedi difa ’yd yr ’annar. Yn Riwddêr bu wedyn i, am flynydda beth, nes i rywun arall ddod i ofyn am ’i mencid ’i , ar gyfer gwella wen odd arni itha. Fe wellwd y wen yna ’efid. Ond y tro ’yn, fe ath y glaim mor dena nes iddi fynd yn lluwch.

A dyna stori claim colyn y nidir i chi. Stori ryfedd, yntyfe. Wi’n cofio gwed y stori yna rywbryd wrth Mrs Champian, mam Mrs Irene Myrddin Davies, a medda Mrs Champian:
‘Wine wedi clwad sôn am glaim colyn y nidir, a taw felna odd nadradd yn ’i neuthur ’i. Coedwyr odd yn nylwyth i’, medda ’i, ‘yn Gwm yr Abar, ’mell cyn i bylla Abertridwr a Singinnydd gael ’u shinco. A fe clwas nw lawer gwaith yn gwed bod nadradd yn neuthur felny, ac yn creu claim colyn y nidir. Chlywas i riôd bod nep on’yn nw wedi gweld y peth, ond fe clwas nw’n gwed bod y peth yn dicwdd, a felna’n gwmws.’

Tâp: AWC 4146. Recordiwyd: 5.iii.1974, ar gais Robin Gwyndaf.

Siaradwraig: Dr Ceinwen H Thomas (1911-2008), Caerdydd. Ganed yn Nantgarw, Cwm Taf, ac yno y bu hi’n byw hyd 1937. Wedi graddio yn BA ac MA yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd, enillodd ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Iwerddon yn 1940. Rhwng 1940 a 1958 bu’n athrawes Gymraeg ym Mhen-cae (Glyn Ebwy) ac ym Mryn-mawr. Yn 1958 dychwelodd fel darlithydd i’w hen goleg yng Nghaerdydd, ac yn y chwedegau a’r saithdegau bu’n cyfarwyddo’r Uned Ymchwil Ieithyddol yn Adran y Gymraeg.

Er yn ifanc, yr oedd Dr Ceinwen H Thomas yn genedlaetholwraig frwd ac yn fawr ei sêl dros yr iaith Gymraeg a diogelu’r ffurfiau Cymraeg cywir ar enwau lleoedd, yn arbennig ym Morgannwg. Gwnaeth gyfraniad eithriadol o werthfawr drwy holi ei mam, Catherine Margretta Thomas (1880-1972), a chofnodi hen ddawnsfeydd gwerin Nantgarw (gw. ei hysgrifau yn Dawns, cylchgrawn Cymdeithas Ddawns Werin Cymru). Yn 1993 cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru hefyd ddwy gyfrol feistrolgar o’i heiddo yn cynnwys disgrifiadau manwl o Gymraeg Nantgarw.

Yr oedd Catherine Margretta Thomas, Nantgarw, mam Ceinwen H Thomas, yn gynheilydd traddodiad nodedig iawn, ac y mae ar gadw yn Amgueddfa Werin Cymru nifer helaeth o dapiau sain yn cynnwys ei hatgofion gwerthfawr. Gweler hefyd erthygl Ceinwen H Thomas, ‘Nantgarw’ (Llafar Gwlad, 40, Mai, 1993, tt. 10-11, 15), sy’n cynnwys cofnod o nifer o draddodiadau a glywodd gan ei mam.

Am werthfawrogiad o gyfraniad Dr Ceinwen H Thomas, gw. erthyglau Dr E Wyn James: ‘Arloeswraig Nodedig – A Remarkable Pioneer: Dr Ceinwen H Thomas’, Dawns, 2008, tt. 4-7; a ‘Cofio Dr Ceinwen’, Barn, rhif 551-2, Ionawr, 2009, tt. 37-38.