Gweld Dyn yn 'Fedals i Gyd' ar Gefn Ceffyl Gwyn a 'Ladi Fach Wen' yn 'Dod Mâs o'r Clawdd'

Eitemau yn y stori hon:

  • 784
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Gan: John Richard Harries, Cas-mael, a'i deulu

 

Beth am ych tad? Odd ych tad yn credu yn y pethe ’ma?
Wel, gês i sawl stori gyda Father, chwel. Pan o Father gatre, chwel, felin o ’da nhwy, chwel, felin ddŵr. Malu, chwel. Odd e mâs o bwti wyth o blant, ychwel. Amser caled, amser ’na, chwel. Bennodd Nhad rysgol, pan o ddouddeg, chwel. Âth i weitho wedyn ar ffarm, pan o ddouddeg, a trowser byr gydag e. Odd e un ar hugen pan gâs e drowser hir, medde (wr)tha i, Father. Odd. A odd e, wy’n cofio, odd e gweu(d) (wr)tho i, odd e myn(d) mâs nawr, on nhw dod i felin, chwel, i grasu. ’R odyn on nhw galw fe. Falle o e’n dod â bwti hanner cwdyn bach o farlys, chwel, i grasu. Gallu gwitho brag, rwbeth felna, chwel. Wel, pan odd plant — odd gwmint o blant gatre, chwel — os on nhw cario brag gatre ar cewn [cefn] i’r ffarmydd ’ma, falle bysen nhw cal dime, chwel. On(d) o Father wedyn, wedd e, cofio odd e myn(d) dros bryn i Casfuwch [Castleblythe], lan i Faenor Ucha. A pan odd o lan dros y myny nawr, dew, welodd e ddyn, ceffyl gwyn mowr, yn dŵad erbyn e. A dyn ar gewn e, yn fedals i gyd, medde fe. Fedals i gyd. A dyma Father yn saliwto iddo — saliwto iddo. Father yn saliwto. Plentyn odd e pyrny. Odd e’n saliwto iddo. Ceffyl gwyn mowr, a’r cyfan, a’r dyn ’yn, wedd e’n sheino, medde fe. Sheino. A dyma fe, sefyll. A fe gollodd e — felna. Collodd e felna.
Wel, wel.

Odd. A wedyn odd e gweu(d) wedyn, ryw amser ’lweth, odd e myn(d), â llafur ar ’i giewn felna, chwel. Brag odd e. A odd e’n croesi mâs wedyn, myn(d) i Faenor odd e nawr, at Anti Sara Hooper a Tomos Hooper. A odd e’n croesi wedyn, lawr hibo’r afon, a o ladi fach wen iwso bod fanna, medde fe. O iet fach ’na, miwn i’r ca nawr, a ladi fach wen. A bob tro odd e’n paso fanna, odd ladi fach wen. Odd ’im ofon ladi wen arno o gwbwl. Menyw fach wen i gyd, medde fe. ... A odd sawl un ’di gweld (h)i. Odd ’im ofon ladi wen arno, medde fe. ’Na i gyd o ladi wen yn neud, we just do(d) mâs o claw’, a drychy(d) felna, a diflannu nôl i’r claw’. ... Menyw fach fyr odd (h)i, yn gwisgo[’n] wyn i gyd. A odd (h)i’n do(d) mâs o’r claw’, chwel, a pan o Father drychy(d) nôl, o dilyn (h)i, a odd e’n cholli ddi nôl yn claw’. Odd ’im ofon honno arno, medde fe. O’n i’n gofyn iddo, pam odd e ’im ofon? O, odd (h)i’n wyn i gyd, medde fe. A o’n dechre twyllu, medde fe, pan o ladi fach wen. O cyfan yn goleuo lan, medde fe. On(d) we’r gole wedyn dala fe gatre, medde fe.

Odd o, y Faenor, lle ma Miss Gertie Hooper yn byw, ’lly?
’Na fe, ie. ’Na fe.
Ble odd ych tad yn byw ar y pryd?
O, yn Felin. Lawr ergyd carreg o Cwm, fan hyn. ’Na gatre Father, chwel.
Felin — odd ’ne enw arni?
Felin Wern. Casmâl. Ie. ’Na gatre Father, chwel.
Beth odd enw’ch tad?
Jim Harries. Un enw o ’dag e. Ie.
Odd o wedi’i eni yn y Felin?
Gal eni a fagu yn Felin. Odd. Odd, odd.
Pen odd o wedi gweld y dyn ’ma yn marchogaeth ceffyl, odd o’n mynd i’r Faenor Ucha?
Faenor Ucha, pyrny.
Ble ma’r Faenor Ucha, wedyn?
Ddim ’mhell o Faenor lle ma Gertie.
Ie.
Ie. Lan ar y bancyn bach ’na, yn y cwm ’na.
’Na chi.
Falle sylwoch chi bore ’ma. Lot o gôd [goed] ’na. Fanna ma Faenor Ucha.
Oes pobol yn byw ’na heddiw?
O, ma ’di cwmpo, ruins, nawr.

Ych tad odd yn deud yr hanes ’ma wrthoch chi, bod o wedi gweld y dyn ’ma?
Ie, Nhad o gweu(d) e.
Tua faint odd ych oed chi ar y pryd?
Wel, plentyn ysgol, chwel. Storïe. Chwmod, yn gaea’ ar min nos. Gweu(d) storïe ’ma, chwel. Beth o wedi digwydd blynydde mowr nôl, pethe fel ’na. Odd. Wel, oedran i fforny, gwedwch, douddeg, falle llai. Chwmod, o storïe ’ma o hyd yn do(d) mâs pan o Mam yn byw, pan on i pennu’r ysgol. Mam o hyd yn gweu(d) storïe fel ’yn wthon ni, chwel. Wel, o tipyn bach o storïe ’to, bysen i cofio amdanon nhw gyd, chwmod.
Wel, mi welodd ych tad y dyn ’ma, odd o riôd wedi gweld y dyn ’ma o’r blaen?
O na, dim eriôd o’r blân. Na. Odd e’n fedals i gyd. Odd e’n sheino, medde fe, yn fedals i gyd. A ceffyl gwyn mowr, medde fe. A ma fe’n saliwto iddo. O Father yn saliwto iddo, medde fe. A saliwtodd — gofynnes i a odd e ’di salwto — a saliwtodd ’im nôl, wedodd e. ‘Stopes. On i drychy(d) arno.’ A gollodd e, medde fe.
Odd o’n meddwl mai ysbryd odd o?
O, ysbryd, ie. Achos wedi’i golli e yn y myny, chwel. Fe gollodd e manna, chwel.
Odd ych tad felly’n credu mewn ysbrydion?
Wel, odd, odd. Wel, ma’r hen fobol, ran fwya, chwel, yn credu pethe. On nhw’n gwel(d) nhw, chwel. Wanieth â ni nawr, chwel. Ni’n trafaelu rhy gloi i wel(d) nhw, chwel. Ma nhw gal heddi. Ma nhw gal heddi, chwel.

Tapiau: AWC 5466-68. Recordiwyd: 29.vi.1977, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: John Richard Harries ('Dic y Cwm'), sir Benfro.
Ganed: 11.vii.1931, yn Nhroed-y-rhiw, Cas-mael. Roedd ei fam, Rowena, yn ferch Richard Harries, Pen-graig, Cas-mael. Yntau'n briod â Serah Harries o ardal Casnewydd-bach. Roedd ei dad, Jim Harries, yn fab Melin Wern (tyddyn a melin ddŵr yn malu blawd), Cas-mael. Roedd ei rieni yntau o gylch Dinas, sir Benfro.

Wedi ymadael o'r ysgol, bu Richard Harries yn was fferm mewn amryw lefydd yn lleol. Yna, am gyfnod o 8 mlynedd, bu'n crwydro llawer fel goruchwyliwr i gwmni yn gosod gwifrau teliffon ar y ffordd fawr. Cyfnod byr wedyn yn gweithio i gwmni adeiladu. Yn 1959 symudodd ef a'i briod, Barbara, o dyddyn o'r enw Lodge, Clunderwen, i dyddyn arall o'r enw Cwm, Cas-mael, ble gwnaed y recordiad. Yn ystod y blynyddoedd hyn bu hefyd yn ymhél â llu mawr o swyddi, megis prynu a gwerthu coed, gyrru lorïau a pheiriannau, gwerthu hufen iâ, gwerthu recordiau sain, a gwerthu sglodion (gyda fan). Ond un o brif ddiddordebau J Richard Harries yw ceffylau. Bu'n cadw ceffylau bron ar hyd ei oes, ac yn eu defnyddio'n gyson i drin y tir.

Y mae'r detholiad o eitemau llafar a ddetholwyd i'w cynnwys yn y cynllun hwn, 'Aur Dan y Rhedyn', yn adlewyrchu'n amlwg iawn gred ddiysgog J Richard Harries, fel cred ei rieni a'i hynafiaid, yn y goruwchnaturiol. Y mae'r cyfan o'r hanesion a adroddir, boed yn brofiadau personol neu'n brofiadau a berthyn i aelodau ei deulu agos, wedi'u hadrodd ganddo fel un sy'n credu'n gydwybodol fod pob hanesyn yn gwbl wir. Meddai wrth adrodd profiad goruwchnaturiol a gafodd ei dad: 'Ma'r hen fobol, ran fwya, chwel, yn credu pethe. On nhw'n gweld nhw, chwel. Waniaeth â ni nawr, chwel. Ni'n trafaelu rhy gloi i weld nhw, chwel. Ma nhw gal heddi. Ma nhw gal heddi, chwel.'