Tafodiaith Brun-Crug, Meirionnydd

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,129
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 758
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Nodweddion cyffredinol

1 Fel yn achos Llanymawddwy, gogleddol at ei gilydd yw’r eirfa yn y darn hwn. Ond ceir ambell air deheuol hefyd:

i gogleddol yw blawd, i fyny, ffisig, a gwrych;

ii deheuol yw cwmpo.

2 O ran ei hacen, fodd bynnag, cawn fod nifer o nodweddion seinegol yn iaith Bryn-crug nad ydynt yn cyd-ddigwydd ond mewn ardal gyfyngedig iawn: i’r gogledd i Aberdyfi yn unig y clywir y nodweddion canlynol gyda’i gilydd.

i Ceir yr ae fain mewn geiriau fel baech, cael ‘cael’, a naew ‘naw’. Sylwer, fodd bynnag, ar y gwahaniaeth rhwng y sain hon yn iaith Mrs Evans ac eiddo Mrs Ann Jones o Lanymawddwy.

ii Swnio’r a a wneir yn y sillaf olaf mewn geiriau fel cerddad ‘cerdded’, bloda ‘blodau’, a panad ‘cwpanaid’.

iii Y mae’r ardal hon ar gyrion tiriogaeth yr u ogleddol ac mae’r sain yn brin iawn: i a geir yn ei lle fel rheol, e.e. dydd, edrych, a gaea. Ar y llaw arall, ceir u ganddi weithiau lle na ddisgwylid ei chael, e.e. melun ‘melin’. 

 

Y Recordiad

A ’dyn mynd i’r ysgol i Abergynolwyn. Cerddad, wth gwrs, bob dydd, yndê. Cerddad yn bora, cychwyn tua wyth o’r gloch i fod yna erbyn naew.

Ag, oeddan ni’n myn’ ’no ddae yn y gia, ond yn y gwanwyn o’ ’na dipyn o stelcian o gwmpas, edrych am adar... am nythod adar bch, yndê, a bloda gwylltion ag ati. A ’dyn oddan ni’n myn’ â’n bwyd efo ni a cael yn bechdan, a... a’n panad o de efo ryw hen wraig yn Abergynolwyn, Sara Huws oddan ni’n galw ’i. A wedyn cerddad adra amsar te, yndê.

geuthon ni dipyn o dywydd wth gwrs, yn y gaea, yr eira ag ati.

A cherddad trwy bob tywydd...

A cerddad trw bob tywydd. Amball i waith oddan ni’n cael reid, a ma’ ’i’n beth rhyfadd, dan ni’n cofio bob reid oddan ni’n arfar gael amsar ’ynny. A gwaetha modd yn cofio rhai odd yn pasho ni hefyd! [Chwerthin.] Ond, odd y... rhai, o’ ’na’m llawar o geir, wth gwrs, ond oedd, oedd rhai yn ffeirid iawn, yn codi ni. Ac ar bob dy’ Merchar oe’ ’na felun yn Bryn-crug, a ‘dyn oedd hen ŵr y felun yn mynd â blawd i fyny i Abyrgynolwyn i’r... iddyn nw gal pobi ’ndê. A ’dyn oddan ni cal lifft i lawr wedyn ar y gert a’r ceffyl, yndê. /Go dda!/ Odd o’n amsar diddorol iawn...

Odd Mrs Davies yn dweud ’tha’ i bod ych mam, ie, yn gneud ryw feddyginiaetha mawr.

O, yn nhaed... ym... ia, wel odd Mam yn neu... yn gneud y ffisig ’ma iddo fo, at y cryd melyn — dach chi ’di clŵad am y cryd melyn? Yellow jaundice, yndê, yn Sisnag. Ag ym... o, oedd, oedd, oeddan ni blant yn, hwyl fawr, bobol yn dod lawr ar y bus, yndê, ag oddan ni’n arfar gweiddi ar ’y nhaed a gorod dŵad o waith y ffarm, yndê, a ‘patient chi ’di dŵad, Dad...!’

[Chwerthin.]

Ag y... a ’dyn odd o’n arfar mesur eda, mesur dafadd, wel fues i’n dal y dafadd lawer gwaith iddo fo, i... i edrych — oedd raid ’ddo fo gel gwybod faint odd oed y person a pa bryd y ganwyd o ag ati, yndê, pa flwyddyn. Ag wedyn odd o’n... yn gweithio rwbath, a ddaru fi ’rioed ofyn ’ddo fo sut oedd o yn gneud o. Oedd o’n arfar gweithio rwbath allan a cyfri, mesur yr eda ’ma, yndê. Ag ’ydyn oedd o’n rhoud yr eda, y ’dafadd, i’r person ar ôl fesur o dair gwaith fel’na. A rhoud y dafadd... A ’dyn odd y person yn rhoud hi am ’i, am ’i goes. Ag os oedd y cryd melyn yn gwella odd’ arno fo, oedd yr edafadd yn cwmpo lawr. Ag oedd o’n gweithio — sut dwi’m yn gwybod, ond dyna un o’r hen, yr hen feddyginiaetha, yndê.

Ag oedd ’y mam yn arfar neud y ffisig iddo fo. Oedd o’n arfar cael, mynd i’r gwrych o’r tu allan, a torn rhyw bren, bren cryd melyn oddan ni’n arfar ’i alw fo. Ag oedd o’n tynnu’r croen i ffwr’, y rhisgil, a y peth ar ôl, cyd.., o dan y rhisgil, cyd-rhwng hwnnw a’r pren. Hwnnw odd o’n neud y ffisig, ag odd o’n felyn felyn... y darn o’r pren ’ynny ’nde. Ag, rhwng... ryw betha erill o’ genno fo yn yr ardd, oedd Mam yn arfar cael y llysha ’ma yndê.

Pa bren odd hwnnw, dach chi’n gwbod?

Y pren cryd melyn ’ma, naeg dw, sgena i’m syniad be dio, nae dw, dim ond bod o’n galw fo pren cryd melyn a dyna fo, yndê.

A’r, o, y bwyd bob amser, cneifio, bwyd dae, yndê. Agor y stafell ora bob amsar, llond cegin a’r stafell ora ’ndê o ddynion. O’ ’na dros ugian i gyd bob amsar. A’r dynion... oddan ni wth yn bodd, fel oddan ni’n tyfu’n ifanc, wedyn, yn cel yr hogia ifanc yn dod i gneifio, yndê..

Ag oddan nw bob amsar yn molchi tu allan, dach chi’n gwbod, mynd â dŵr mewn desgil iddyn nw allan yndê, a ’dyn, o, yr hen hogia’n llycho’r dŵr ar... penna ’i gilydd ag ati. Oe’ ’na hwyl, ddigon o hwyl. Ag amsar yr injam ddyrnu wedyn, ... dod i ddyrnu’r... y... grawnwin yndê, or wth y... gwêllt. A helynt fawr cael yr injam i ddŵad achos... Gor... mynd a ceffyla a tynnu’r injam, yndê, yn enwedig amball i hen geffyl styfnig, dach chi’n gwbod, a hwnnw’n ’cau tynnu efo’r lleill, yn strancio ’wrach. O, oeddan ni ofn i’r dynion frifo’n ofnadwy amsar ’ny.

Nodiadau

bloda gwylltion

Sylwer ar ffurf luosog yr ansoddair.

bechdan ‘brechdan’

Un o’r geiriau prin a fenthyciwyd o’r Wyddeleg yw hwn; ymestyn ei diriogaeth o’r Gogledd hyd at Geredigion. Er mai ‘tafell o fara ymenyn’ oedd ystyr yr enw hwn yn wreiddiol, mae’r ystyr wedi ymledu ac erbyn hyn fe’i defnyddir hefyd am sandwich trwy Gymru gan siaradwyr iau a chan bobl ‘y pethe’ yn lle’r gair Saesneg sydd yn digwydd yn naturiol ar lafar. Ystyr drosiadol yn y Gogledd yw ‘dyn di-asgwrn-cefn’, e.e. hen frechdan (o ddyn).

panad ‘cwpanaid’

ffeind ‘caredig’

O’r Saesneg fine y cafwyd yr ansoddair hwn; benthyciwyd y gair yn y De hefyd ond fel rheol fe’i clywir heb y -d ordyfol. Ystyron eraill i’r gair yw ‘hyfryd, braf, blasus’; sonnir, er enghraifft, am tywydd ffein, bwyd ffein.

y gert

Ceir yr eitem hon yng ngorllewin y Canolbarth ac yn y De (yn y ffurf cart); gair cyffredin y Gogledd yw trol, trwmbel sydd yn nodweddu dwyrain y Canolbarth. Benywaidd yw cert y Gogledd, eithr tuedda cart y De i fod yn wrywaidd.

ffisig ‘moddion’

Dengys y LGW fod ardal Tywyn ar gyrion tiriogaeth y gair nodweddiadol ogleddol hwn. Ym Morgannwg, fel yn y gweddill o’r De, moddion yw’r gair arferol, ond defnyddir ffisig hefyd yn y rhan ddwyreiniol i gyfeirio at foddion i weithio’r coff.

cryd melyn

Term a gyfyngir yn ddaearyddol i’r Gogledd-ddwyrain a rhannau o’r Canolbarth.
Y clwy melyn a geir yn y Gogledd-orllewin a’r clefyd melyn yw’r enw drwy’r De a’r rhan fwyaf o’r Canolbarth.
Y clefyd melyn yw’r ateb a gofnodwyd yn LGW ar gyfer Aberdyfi, sef y pwynt agosafyn yr atlas at Fryn-crug. Pe gwneid astudiaeth fanylach o’r ardal mae’n dra hebyg y ceid bod cryn amrywio geirfaol ynddi.

Diddorol sylwi, hefyd, fod y term clwy ede wlân wedi ei gofnodi ar gyfer yr afiechyd hwn yng Ngharno (pwynt 77 yn LGW). Am fanylion pellach, gweler T. Gwynn Jones: Welsh Folklore and Folk Custom (London, 193O), tt.13O-3, ac Evan Isaac: Coelion Cymru (Aberystwyth, 1938), tt.162-7.

eda, dafadd

Enghraifft ardderchog o ddybled eirfaol yn digwydd bron yn yr un gwynt! Yn ôl LGW, t.333, ceir ffurfiau ar edafedd yn y Gogledd, y Canolbarth a’r De-orllewin,
tra bo eda wlân yn digwydd yn achlysurol yn y Canolbarth. Gwlân a ddywedir yn y De-ddwyrain.

gweithio ‘gwneud’

Sonnir yn aml yn nhafodieithoedd y De-orllewin am ‘weithio’ bwydydd (ce. teisen, bara), dillad (e.e. hetiau, matiau, hosanau), a chelfi, ac yn y blaen.

rhoud ‘rhoi’

cwmpo lawr ‘syrthio’

Gair y mae ei ddosbarthiad yn ymestyn o’r De i’r Canolbarth yw cwympo. Dylanwad y Saesneg fall down sydd yn cyfrif am ychwanegu lawr yn y cyd-destun hwn: nis ceir fel rheol yn y Gymraeg gan fod cwympo neu syrthio yn ddigonol ar eu pen eu hunain.

gwrych ‘perth’

Gair nodweddiadol o’r Gogledd y mae ei diriogaeth yn cynnwys rhannau o’r Canolbarth. Yn y recordiad o Lanymawddwy, ceir enghraifft o stingodd, ffurf luosog shetin, gair yr ardal honno.

pren cryd melyn ‘Berberis vulgaris’; barberry neu berberry i’r Sais.

cyd-rhwng ‘rhwng’

Soniodd Mr Trefor Owen, cyn-Guradur Sain Ffagan, wrthym iddo dderbyn Ilythyr un tro oddi wrth rywun o’r ardal hon. Ar ben y ddalen ysgrifennwyd ‘Cydrhyngom’, h.y. ‘Cyfrinachol’. Ar wahân i’r ffaith bod yma ddefnydd idiomatig diddorol, dyma enghraifft odidog o’r modd y gall tafodiaith gyfoethogi’r iaith safonol.

sgena i ‘nid oes gennyf’

desgil ‘powlen’

Am y gwahaniaeth rhwng desgil y Gogledd a dyshgil y De, gweler

llycho ‘Iluchio, taflu’

injam < S.engine

Er bod y ffurf hon yn ddieithr i glustiau’r rhan fwyaf ohonom, nodwedd ddigon cyffredin yw cyfnewid -n ac -m mewn geiriau benthyg; enghreifftiau eraill yw:

button > botwm
cotton > cotwm
plain > plaem
plane > plâm
reason > rheswm
saffron > saffrwm

’cau ‘gwrthod’

Talfyriad cyffredin drwy’r Gogledd o ‘nacáu’.