Tân yn Llŷn

Eitemau yn y stori hon:

  • 5,623
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 3,207
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,605
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,118
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Tân yn Llŷn

Ar 8 Medi 1936, aeth tri dyn i mewn i eiddo ysgol hyfforddi'r Llu Awyr Brenhinol ym Mhenyberth ar Benrhyn Llŷn. Roedd Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine, tri aelod blaenllaw Plaid Genedlaethol Cymru, yn bwriadu achosi difrod i eiddo'r ysgol fomio. Fe wnaethant osod yr adeiladau ar dân cyn iddynt fynd i swyddfa heddlu Pwllheli a derbyn cyfrifoldeb am y weithred.

Byddai'r weithred hon yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol yn hanes yr iaith Gymraeg.

Roedd gwrthwynebiad cryf i fodolaeth yr ysgol fomio ym Mhen Llŷn ar y pryd. Roedd llawer yn gwrthwynebu ar seiliau heddychiaeth ac amgylchedd ond i Lewis, Williams a Valentine roedd yr ysgol yn cynrychioli  gorthrwm Lloegr dros Gymru a gorfodi rhyfelgarwch a thrais Lloegr ar gefn gwlad heddychol Cymru. Roedd y llywodraeth wedi bwriadu adeiladu sefydliadau tebyg yn Swydd Northumberland a Swydd Dorset ond wedi ildio i brotestiadau naturiaethwyr a haneswyr. Ond gwrthododd Baldwin, y Prif Weinidog, wrando ar ddirprwyaeth a oedd yn cynrychioli dros hanner miliwn o Gymry.

Cyfaddef

Dechreuwyd ar adeiladu'r 'ysgol fomio' pedwar can mlynedd union ar ôl pasio mesur y Ddeddf Uno.

Roedd y tri yn aelodau blaenllaw yn y blaid; bu Valentine yn Llywydd cyntaf Plaid Cymru, ond roeddent yn anhapus gydag anallu Plaid Cymru i weithredu ers i'r Llu Awyr ddatgan ei bwriad ym mis Awst 1935, ac felly fe wnaethant benderfynu gweithredu eu hunain.

Wedi datgan eu trosedd yng ngorsaf yr heddlu ym Mhwllheli, cynhaliwyd achos llys yng Nghaernarofn ar 13 Hydref 1936. Methodd y rheithgor ddod i benderfyniad felly trosglwyddwyd yr achos i’r Old Bailey yn Llundain lle dedfrydwyd Lewis, Williams a Valentine i naw mis o garchar.

Deffro teimladau

Deffrôdd y 'Tân yn Llŷn' deimladau cryf. Erbyn yr ail dreial yn Llundain, roedd Saunders Lewis wedi cael ei ddiswyddo gan ei gyflogwyr, Coleg y Brifysgol Abertawe. Gwylltiodd y penderfyniad i symud yr achos i Lundain, a thriniaeth ddirmygus y barnwr, lawer o bobl yng Nghymru.

Yn dilyn eu rhyddhad o garchar ar 27 Awst 1937, croesawyd Lewis, Williams a Valentine gan dorf o tua 12,000 ym Mhafiliwn Caernarfon. Gwelwyd arddangosfeydd o gefnogaeth debyg ar draws Cymru, gan ddangos effaith y digwyddiad ar gyfoeswyr, yn enwedig yn y gymuned Gymraeg ei hiaith.

Er i lawer obeithio y byddai Penyberth yn achosi atgyfnerthiad yn y mudiad cenedlaethol yng Nghymru, ni welwyd codiad arwyddocaol mewn aelodaeth na chefnogaeth, ac roedd dechrau'r rhyfel ym 1939 yn golygu yr anghofiwyd am y fath bryderon am y tro.

Arwyddocâd hir-dymor

Heddiw, mae Penyberth yn yr un cae â Thryweryn o ran ei arwyddocâd yn y frwydr i achub yr iaith Gymraeg. Roedd safiad Lewis, Valentine a Williams yn ysbrydoliaeth i ymgyrchwyr dros yr iaith am ddegawdau, ac fe wnaeth eu hymdrechion parhaus er lles Cymru a'r Cymry eu gwneud yn dri o actifyddion gwleidyddol pennaf Cymru. Aeth Saunders Lewis yn ei flaen i ddarlledu'r araith enwog 'Tynged yr Iaith' ym 1962, a arweiniodd at ffurfio Cymdeithas yr Iaith sy'n ymgyrchu dros hawliau i'r Gymraeg hyd heddiw.