Siwt frodiog ysblennydd o'r 1770au

Eitemau yn y stori hon:

  • 386
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 467
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Siwt felfed yn dyddio o 1770

Prynwyd y darnau pwysicaf o gasgliad Amgueddfa Cymru o ddillad dynion o'r 18fed-ganrif ym 1996. Mae'r siwt felfed yn dyddio o 1770 ac roedd yn eiddo i Syr Watkin Williams-Wynn. Mae wedi'i brodio â sidanau a secwinau aur, ac mae mewn cyflwr arbennig o dda..

 

Syr Watkin Williams-Wynn

Roedd Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789) o Wynnstay yn noddi'r celfyddydau ac roedd yn eithriadol o gyfoethog ac adnabyddus. Adlewyrchai ei ddillad ei ffordd o fyw. Prynodd siwtiau melfed coeth yn Ffrainc a'r Eidal tra'r oedd ar ei Daith Fawr ym 1768-9. Yn ystod y 1770au prynodd ddillad oddi wrth nifer o deilwriaid, hosanwyr a gwneuthurwyr les Llundain, gan wario tua £1,000 y flwyddyn ar siwtiau'n unig - swm anferthol ar y pryd. 

Secwinau aur ac edafedd arian

Mae'r gôt felfed lliw eirin wedi'i brodio gyda sidanau a secwinau aur. Gwnaethpwyd y wasgod a'r llodrau sy'n cyd-fynd â hi ychydig yn ddiweddarach. Prynodd yr Amgueddfa got wlân goch o'r un cyfnod, wedi'i haddurno â brodwaith o edafedd arian.

Magodd Syr Watkin gryn dipyn o bwysau wrth iddo heneiddio, ac efallai mai dyna pam fod y siwt wedi goroesi mewn cyflwr mor dda.

Brodwaith cyfoethog

Mae gan gôt y siwt flaen rhandoredig a choler fer sy'n sefyll i fyny. Mae'r leinin o sidan gwyrdd i gyd-fynd â defnydd y wasgod. Mae gan y wasgod flaenau o sidan gwyrdd a leinin a chefn o sidan mwy gwelw ei liw, o wehyddiad plaen. Fel y siwt, mae'r brodwaith yn cynnwys ymylweoedd aur, secwinau metel a rhubanau blodeuog. Mae'r gwaith yn gain dros ben.

Mae'n debygol y cafodd y siwt ei wneud mewn gweithdy teiliwr o Lundain. Y crefftwyr gorau ynghyd â nifer o frodwyr proffesiynol fyddai wedi'i chreu. Mae'n debygol iawn y cafodd y gôt wlân goch ei gwneud yn yr un gweithdy, gan fod y brodwaith ar honno hefyd yn cynnwys secwinau aur ac arian, ymylweoedd metel ac edeifion sidan, gyda themâu tebyg o fwâu, addurnblethau a thaselau. 

Dillad crand ar gyfer achlysuron mawreddog

Roedd y dillad hyn mor ddrud gellid bod wedi eu gwisgo yn y llys brenhinol. Yng Nghymru, gallai Syr Watkin fod wedi gwisgo dillad o'r fath yn ei barti i ddathlu ei ben-blwydd yn un-ar-hugain ym 1770. Daeth y parti i fod yn chwedlonol oherwydd ei ormodedd a'i faint - cafwyd 15,000 o westeion a daeth tair coets o gogyddion o Lundain.

Adeiladwyd neuadd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o'r prif adeilad yn Wynnstay, pan ychwanegwyd ystafelloedd gwely uwch ei ben. Mae'r bwyd a fwytawyd yn y parti yn cynnwys 30 buwch, 50 mochyn, 50 llo, 80 dafad, 18 oen, 37 twrci a 421 pwys o eog. Efallai bod hyn yn esbonio maint Syr Watkin yn ei henaint! Bum mlynedd yn ddiweddarach, ym 1735, penododd y Brenin Siôr III Syr Watkin yn Arglwydd Raglaw (cynrychiolwr y brenin) ar gyfer Meirionnydd.

Cartref newydd yn yr Amgueddfa

Gofalir am yr eitemau hynod yma yn Sain Ffagan, ond oherwydd eu hoedran a'u breuder ni allwn eu harddangos yn barhaol. Pan maent yn cael eu harddangos, byddant ochr yn ochr ag esiamplau eraill o ddillad o'r 18fed-ganrif, fel bod modd i ymwelwyr weld cyfoeth y sidanau, y melfedau a'r brodwaith a oedd ar gael i gyfoethogion Cymru.