Winston Lewis' Memories

Eitemau yn y stori hon:

  • 205
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi


Taith Tad Paul Sartori o’r Offeiriadaeth i Ofal Hosbis yn y Cartref



Trawsgrifiad Cyfweliad Hanes Llafar  Winston Peter Lewis



Present: Winston Lewis (WL), Fianolla Allen (FA), Kiara Quimby (KQ)



Trawsgrifiad


 



00:00:01 FA: Helo, Mr. Lewis.



00:00:02 WL: Helo ‘na.



00:00:03 FA: Fionolla Allen wyf fi ac rwyf wedi bod yn gwirfoddoli gyda sefydliad Paul Sartori dros y blynyddoedd. Fe wyddoch bod y cyfweliad hwn yn cael ei ricordio ac y byddwn yn ei danysgrifio.



00:00:18 WL: Does dim gwahanaieth gennyf.



00:00:19 FA: A bydd yn yr archifau. Ydech chi’n hapus am hynny?



00:00:23 WL: Wrth gwrs.



00:00:24 FA: Da iawn. I ddechrau, fyddech chi cystal â dweud eich enw llawn a dyddiad eich geni.



00:00:33 WL:  Winston Peter Lewis, 15ed Tachwedd 1941.



00:00:36 FA: Roddwch chi ganiatâd inni ricordio’r cyfweliad yma?



00:00:40 WL:  Iawn.



00:00:41 FA: Pryd a lle cawsoch eich geni?



00:00:50 WL: 1941.



00:00:52 FA: Ie ond yn Llanelli?



00:00:50 WL: Yn Llanelli



00:00:56 FA: A sut wnaethoch chi gyfarfod gyntaf â Tad Sartori?



00:01:00 WL: Yn yr ysgol gynradd.



00:01:01 FA: Ydych ch’n cofio hynny?



00:01:09 WL: Flynyddoedd lawer yn ôl pan oeddech yn apelio am wybodaeth am Paul, gyrrais lythyr ichi ac ynddo lun a darn o bapur dyddiol. Roeddem yn yr ysgol hefo’n gilydd tan yn unarddeg oed.



00:01:23 FA: Iawn



00:01:28 WL: Aeth Paul i Goleg y Santes Fair yn Llandeilo.



00:01:33 FA: Beth fyddai eich hoff storïau am Tad Sartori?



00:01:41 WL: Roedd bob amser yn gwibio o gwmpas ac yn flêr uffernol.



00:01:45 FA: Oedd na ddim stori arbennig felly?



00:01:56 WL: Na, dim byd arbennig.



00:01:57 FA: Oeddech chi’n ffrindiau ar ôl gadael yr ysgol gynradd?



00:02:06 WL: Na. Aeth Paul i Goleg y Santes Fair ac yna i Aberystwyth a’r Coleg Saesneg yn Lisbon. Cafodd ei symud o fan i fan ond byddai’n ymweld â ni pan oedd yn ôl Llanelli.



00:02:29 FA: Fyddech chi’n dweud iddo effeithio arnoch chi fel teulu?



00:02:37 WL: Roeddem yn adnabod ei deulu. Pobl dda. Roedd ei rieni yn bobl dduwiol.



00:02:46 FA: Oedden nhw?



00:02:47 WL: Ac nid mewn ffordd afiach.



00:02:50 FA: Fe wn beth ydych yn ei feddwl. Oes yna stori yr hoffech ei hadrodd inni?



00:03:02 WL: Na, dim byd arbennig, dim ond yr hyn a sgwennais chi yn fy llythyr.



00:03:03 FA: Dim? Beth?  Beth am pan oeddech yn yr ysgol gyda’ch gilydd?



00:03:07 WL: Alla’ i ddim cofio mor bell yn ôl. Rwyf yn tynnu ‘mlaen fy hunan wyddoch.



00:03:08 FA: Na, wrth gwrs. Mae hynny’n wir. Am ei gymeriad felly, allech chi grynhoi Tad Sartori mewn ychydig eiriau?



00:03:22 WL: Bob amser yn hwyliog ac yn llawn ynni.



00:03:25 FA: Da iawn.



00:03:26 WL: Cymeriad rhadlon cyfareddol ddywedwn i gan gynnwys ychydig o anfadrwydd hefyd.



00:03:36 FA: Dyna dda. Mae gan Kiara gwestiynnau ichi rwan.



00:03:44 KQ: Hoffwn ofyn ichi dipyn am eich profiad yn yr ysgol inni ddysgu am eich amser yno, y pynciau oeddech yn astudio, yr athrawon etc. Byddai’n ddefnyddiol iawn pe gallech gofio unrhywbeth am y rhain.



00:03:57 WL: Ysgol y Santes Fair yn Llanelli ydoedd. O’r rheng A – this to be checked oedd y lleianod ac yn wyddelod bron bob un. Roeddent yn ddisgyblwyr llym a’r addysg yn elfennol iawn.



00:04:19 KQ: Oeddech chi’n gwneud ymarfer corff? Dywedir bod Tad Sartori yn mwynhau rhedeg a’r naid hir pan oedd yn yr ysgol



00:04:27 WL: Oedd. Byddai hynny pan oedd yng Ngoleg y Santes Fair yn Llandeilo.



00:04:35 KQ: Ar ôl gadael yr ysgol elfennol, ai i’r un ysgol eilradd yr aethoch chi eich dau?



00:04:42 WL: Na, na. Aeth Paul i Goleg y Santes Fair yn Llandeilo.



00:04:49 KQ: Gwych. Diolch ichi a …



00:04:53 WL: Nid wyf yn sicir os cafodd Paul ei noddi gan yr esgobaeth neu gan ei rieni a hwyrach mai cyfuniad o’r ddau ydoedd. Aeth i’r Santes Fair yn Aberystwyth. Paratoi disgyblion nad oeddent wedi llwyddo yn eu arholiadau ar gyfer yr athrofa oedd y coleg hwn.



00:05:19 KQ: O’ch cof cynnar amdano, fyddech chi’n dweud bod gan Paul yr angerdd a’r brwdfrydedd i fod yn offeiriad? Neu fuasech chi’n dweud mai rhywbeth ddaeth iddo nes ymlaen yn ei fywyd ydoedd?



00:05:29 WL: Nes ymlaen, rwy’n meddwl ac roedd yn sioc i’w fam.



00:05:34 FA: Hogyn ysgol normal ydoedd yntê?



00:05:37 WL: Ie, siwr iawn. Ie.



00:05:38 FA: Ie. Da iawn.



00:05:40 KQ: Yn eich llythyr, roeddech yn dweud yr enw roddai ei fam i Paul. Allwch chi gofio beth ydoedd os gwelwch yn dda?



00:05:50 WL: Sipsi.



00:05:52 FA: O



00:05:58 WL: Rhaid bod yn ofalus y dyddiau yma. ‘Gypo y teulu’ y cyfeiriai ei fam ato.



00:06:05 KQ: Ai enw anwyldeb oedd hwn, ie?



00:06:09 WL: Ie siwr iawn



00:06:10 FA: Da iawn



00:06:12 KQ: Oes yna unrhywbeth arall yr hoffech ddweud wrthym am Tad Sartori cyn inni gau?



00:06:17 WL: Na, ond mae un peth. Mae gennyf luniau o’r eglwys yn Llanelli lle cafodd Paul ei ordeinio. Fyddent hwy o ddiddordeb ichi?



00:06:26 KQ: Rydym yn croesawu popeth fel y rhain ac yn ddiolchgar iawn ichi amdanynt.



00:06:31 WL: Hoffech chi lun o’i garreg fedd?



00:06:37 KQ: Buasem wrth ein bodd. Diolch yn fawr ichi Mr Lewis.



00:06:40 WL: golygwyd Fe’i gyrraf ichi cyn gynted ag y gorffennaf hefo nhw.



00:06:52 KQ: O, mae hynna yn wych. Diolch yn fawr iawn ichi am eich amser yma heddiw – gwerthfawrogwn y cyfan.



00:06:57 WL: Dim problem. Cymerwch ofal.