Anne Murphy's Memories

Eitemau yn y stori hon:

  • 198
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi


Cyfieithiad Cyfweliad Anne Murphy Transcription



Ricordiwyd 30/01/ 2023 yn Tŷ Sartori, Hwlffordd



Presennol: Mike Allen (MA), Anne Murphy (AM) a Kiara Quimby (KQ)



Trawsgrifiad


00:00:03 MA: Beth yw eich enw yn llawn?



00:00:04 AM: Anne Maria Murphy.



00:00:07 MA: Oes caniatâd inni ricordio’r cyfweliad hwn, Anne?



00:00:09 AM: Cewch



00:00:11 MA: Pryd a lle ganwyd chi?



00:00:14 AM: 1961 yng Ngaerdydd. Credaf inni symud i Hwlffordd pan oeddwn yn chwech oed – 1966/67



00:00:30 MA: Sut wnaethoch chi gyfarfod â Tad Sartori?



00:00:33 AM: Tarddai fy rhieni o Silent ger Wexford Carol Crow ac wrth gwrs, roeddent yn gatholigion. Mynychem yr eglwys gatholig rufeinig Seintiau Dewi a Phadrig yn Hwlffordd ac roedd Paul Sartori yn offeiriad yno.



00:00:57 MA: Beth yw eich cof cynharaf am Tad Sartori?



00:01:03 AM: Cofiaf yn dda mynd i’r offeren pan oeddwn yn ddeg oed. Roeddem yn byw yn Eberwyn, Clunderwen a byddem yn dreifio lawr i Hwlffordd i’r offeren ar nos Sul. Os gwelwn mai Tad Coffey oedd yn gwasanathu, rhyw ddiflas oeddwn ond byddwn wrth fy modd os mai Paul Sartori oedd yn gwasanaethu gan ei fod yn siarad â ni. Deg oed oeddwn, cofiwch. Roedd Tad Sartori yn llawn hwyl ac yn ddiddorol inni wrando arno. “Fy Nuw. Duw ydio!”. Dyn clên ydoedd ac fel yna oeddwn i’n teimlo yn ddeg oed.



00:01:54 MA: Sut fuasech chi’n disgrifio Tad Sartori?



00:02:01 AM: Ieuanc a hwyliog.



00:02:03 MA: Oes hoff storïau gennych am Tad Sartori?



00:02:10-00:03:56 AM: Oes yn sicir. Fel y dywedais, pan yn ferch ieuanc, byddem y dod lawr i Hwlffordd o Eberwyn. Mynychais yr ysgol yno ond nid ysgol gatholig ydoedd. Trefnodd Tad Sartori inni gael ein haddysgu ar gyfer ein cymun gan y lleianod o Ysgol Gatholig Mair Ddihalog yn Hwlffordd.



Byddai fy rhieni yn mynd i’r Clwb Llafur gan fwynhau diod gyda Paul Sartori chofiaf fel byddai mam yn dod â chreision a Coke inni. Cofiaf wasanaeth cymun fy mrawd a rhoddais luniau ohono ichi.



Pan oeddwn yn 18/19 roedd awydd nyrsio arnaf. Gofynnodd fy rhieni i Paul Sartori am dystlythyr imi. Dywedodd wrthyf “Sut wyt ti am dalu imi? Faint o gelwyddau sydd raid imi eu dweud.” “Oh,”meddwn “merch dda ydwyf ac fe wyddoch hynny.” Chwerthodd yntau. Ar y ffordd adref, dywedodd mam wrthyf “Pan oedd yn y Clwb Llafur, dywedodd Tad Sartori y byddi’n nyrs dda, Anne.” “Oh, diolch, mam.” Rwyf wedi gofyn am gopi o’r tystlythyr ac fe’i gyrraf ichi os ceir gafael arno er cofiwch bod hynny 42 mlynedd yn ôl.



00:04:04 MA: Chyffyrddodd Tad Sartori eich bywyd mewn ffordd arall?



00:04:15- 00:06:33 AM: Y sefydliad yn fwy tebyg. Mae’r hyn mae Tad Sartori wedi ei adael wedi cyffwrdd â’m bywyd. Rwy’n byw ar y ffîn rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin ac wedi gweithio fel nyrs yn Ysbyty Llwynhelyg am 42 o flynyddoedd. Pan oedd fy nhad yn sâl o gancr yr oesoffagws, sefydliad Paul Sartori oedd yn fy ngynnal. Edrychais ar ôl fy nhad am dri/chwe mis ond gwaethygu wnaeth a sefydliad Paul Sartori ddaeth atom i’m cynorthwyo.



A finnau’n nyrs, roeddwn eisiau gweini ar fy nhad yn fy ffordd fy hunan a dyna’n union oeddynt hwy eisiau hefyd. “Beth hoffech chi inni ei wneud, Anne? Sut allwn ni eich cynorthwyo i wneud yr hyn ydych eisiau ar gyfer eich tad?” Ynghynt, roeddwn ar ddi-hun ddydd a nos. Aeth pethau o ddrwg i waeth ac nid oeddwn yn ymdopi o gwbwl.



Un bore, ffoniais sefydliad Paul Sartori am naw o’r gloch gan egluro nad oeddwn yn ymdopi nyrsio fy nhad a’i droi saith ar hugain o weithiau bob pedair awr ar hugain, fod y cyfan yn ormod imi ar ben fy hunan. Y noson honno, roedd rhywun yma. Cysgais dair noson gyfan – Gwener, Sadwrn a’r Sul a’n nhad yn cael eu gofal.



Roedd angen gwely trydan arnom gan fod troi fy nhad yn ei wely dwbwl mawr yn waith caled iawn. Roedd un ar gael ymhen 13 wythnos oedd ateb y nyrs ardal ond ofnais byddai dad wedi marw cyn hynny. Ffoniais sefydliad Sartori ac fe gyrhaeddodd gwely trydan yma am un o’r gloch y prynhawn hwnnw.



Wedi marwolaeth fy nhad, parhau wnaeth y cymorth a’r cefnogaeth gan sefydliad Paul Sartori i’m teulu. Alla i ddim diolch digon iddynt ac yn y pen draw sefydliad Paul Sartori ydyw. Rhoddodd Paul gymorth imi pan oeddwn yn ymgeisio mynd yn nyrs ac yn fy ngynorthwyo eto i nyrsio fy rhieni yn eu horiau olaf.



00:06:34 MA: Allech chi grynhoi Tad Sartori i dri gair, Anne?



00:06:41 AM: Cynnes, hwyliog a gofalgar



00:06:46 MA: Oes yna unrhywbeth arall yr hoffech sôn amdano?



00:06:53-00:07:58 AM: Gwn bod hyn yn swnio’n rhyfedd ond oeddech chi’n adnabod John Coffey? Wel, edrychwch mor wahanol oedd o a Paul Sartori. Roedd un yn ieuanc a’r llall yn ymddangos mor hen. Ond, wyddoch chi, roedd y ddau yn gweithio’n wych gyda’i gilydd. Wrth feddwl am y peth, roedd y gallu gan Paul i gyd-fynd â phawb, onid oedd? Byddaf yn meddwl amdano hyd yn oed heddiw. Mae’n debyg na ddyliwn ddweud hyn ond nid oedd calon yn yr eglwys ar ôl iddo farw ac anodd iawn ydoedd imi. Gweithiais gyda offeiriaid eraill ddaeth ar ôl hynny. Byddent yn traddodi’r defodau olaf, ac yn arbennig pan fu farw fy nhad, ond nid oedd yr un cynhesrwydd ganddynt ag oedd gan Paul Sartori.



00:07:59 MA: Esgidiau mawr i’w llenwi ynte. Diolch ichi Anne am eich cyfraniad. Diolch yn fawr.



00:08:08 AM: Diolch.