5. Clybiau Bechgyn a Merched: Yr adeg orau a gefais erioed
Eitemau yn y stori hon:
Agorwyd y clwb bechgyn cyntaf yn Nhreharris ym 1922 – a oedd yn ymateb i’r angen i gynnig rhywbeth cynhyrchiol a chadarnhaol i fechgyn yng nghymunedau’r maes glo.
Cynllun Llawr ar gyfer Clwb Bechgyn Wattstown, 1932 (DX446/29/1)
Agorodd clybiau eraill yn fuan yn Nant-y-moel, Treorci, Wattstown, Ton Pentre, Cross Keys a Blaengwynfi gan roi cyfleoedd i fechgyn gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden ac addysgol gan gynnwys chwaraeon a drama.
Atgofion Gwersyll Sain Tathan o’r Ocean and National Magazine (D1400/9/1/8)
Sefydlwyd gwersyll Sain Tathan ym 1923. Yn ogystal â dyletswyddau’r gwersyll, byddai bechgyn yn mwynhau wythnos o gemau yn yr awyr agored, nofio, sgyrsiau ac adloniant. Erbyn 1935, roedd 19,645 o fechgyn o faes glo de Cymru wedi bod drwy’r gwersyll.
Taflen Pentref Bechgyn St Athan (Lieut/S/X/39/3)
Cynigiwyd gweithgareddau i ferched y maes glo hefyd, gyda sefydlu Gwersyll merched Trebefered ym 1932. Roedd gweithgareddau yno yn cynnwys nofio, gemau. Dawnsio gwerin, teithiau cerdded, cystadlaethau, canu a phicnics.
Merched yn chwarae pêl-droed yng Ngwersyll Merched Trebefered, 1948 (DNCB/14/4/154/195)