Helen Lewis - John's Memories

Eitemau yn y stori hon:

  • 154
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi


Lleisiau o’r Gymuned:



Taith Tad Paul Sartori o’r Offeiriadaeth i Ofal Hosbis yn y Cartref



Trawsgrifiad Cyfweliad Hanes Llafar Helen Lewis-John



Presennol: Helen Lewis-John (HLJ), Simon Hancock (SH) a Kiara Quimby (KQ)



00:00:02 SH: Beth yw eich enw’n llawn?



00:00:03 HLJ: Helen Lewis-John



00:00:06 SH: Allwn ni gael eich caniatâd i ricordio’r cyfweliad hwn?



00:00:08 HLJ: Cewch.



00:00:11 SH: Pryd a lle cawsoch eich geni?



00:00:16 HLJ: 1932



00:00:19 SH: Sut wnaethoch chi gyfarfod â Tad Paul Sartori?



00:00:26-00:02:47 HLJ: Yn 1979, derbyniodd y llyfrgell lythyr gan ffrind i fy Modryb Nell ac am nad oedd gennyf amser i’w ddarllen ar y pryd euthum ag o hefo mi i’m gwaith. Cefais sioc pan ddarllenais y llythyr a hefyd am fod Frances yn tybio mod i’n gwybod bod Modryb Nell wedi marw ac wedi ei chladdu. Roedd Modryb Nell yn gatholigwraIg frwd ac roeddem yn poeni iddi gael ei chladdu heb y sagrafen na offeren marwnad.



Catholigwraig oedd y person y siaradais wrthi am y peth yn ein saib o’r gwaith. Roedd hi’n mynychu’r eglwys yn Hwlffordd ac aethom i weld Tad Sartori. Dangosais y llythyr iddo gan egluro nad oeddwn i yn gatholigwraig ers tro. ‘Doedd o ddim yn feirnadol ohonof o gwbwl, roedd yn llawn cydymdeimlad ac yn garedig iawn



“Fe wnaf fy ngorau i ddarganfod beth sydd wedi digwydd” meddai, ac fe wnaeth hynny. Cysylltodd â’i frawd oedd yn offeiriad yn Abertawe a chafodd y wybodaeth ganddo.



Pan siaradodd hefo fi ar y ffôn, dywedodd nad oedd yn gallu rhoi gwasanaeth angladdol imi yn yr eglwys am nad wyf yn gatholigwraig mwyach ond ei fod wedi trefnu imi fynd i’r lleiandy yn Hwlffordd. Traddodwyd y gwasanaeth gan y fam uwchraddol yno ac roedd y cyfan yn hyfryd. Roeddwn yn caru Modryb Nell yn annwyl iawn a rhoddodd y gwasanaeth imi’r dewrder i ffarwelio â hi.



00:02:52 SH: Ai dyna eich cof cynharaf am Tad Paul Sartori? Wnaethoch chi gyfarfod ag ef ar ôl hyn?



00:03:00 HLJ: Na, yn anffodus.



00:03:01 SH: Sut fuasech chi yn ei ddisgrifio fel person? Gwn ichi ei gyfarfod ond un tro yn unig. Sut oedd o’n ymddangos ichi?



00:03:07 HLJ: Person caredig iawn a chredaf byddai ganddo synnwyr digrifwch wych.



00:03:23 SH: Oes storïau eraill gennych am Tad Sartori? Fuoch chi mewn cysylltiad arall ag o neu ai dyma’r unig ddigwyddiad?



00:03:31- 00:03:51 HLJ: Dim ond hynna. Pan sefydlwyd yr hosbis, trefnais i dalu swm misol a theimlaf mai dyma sut y gallaf ddiolch i Tad Sartori.



00:03:55 SH: Ardderchog.