Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Eitemau yn y stori hon:

  • 2,841
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 3,664
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 6,558
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 5,507
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Tynged yr Iaith - 13 Chwefror 1962




Darlith radio flynyddol y BBC a draddodwyd ar 13 Chwefror 1962 gan Saunders Lewis oedd Tynged yr Iaith. Cyn-lywydd Plaid Cymru oedd Saunders Lewis, ac fe gafodd ei ddarlith effaith syfrdanol ar y Cymry Cymraeg.



Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi a thrwyddedau os nad oedd modd gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Ei farn oedd bod angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon a wynebu carchar er mwyn achub yr iaith Gymraeg. Dyma ran o'r ddarlith -



“Yn Ebrill 1952 prynodd ef a'i wraig fwthyn yn Llangennech gerllaw Llanelli, mewn ardal y mae naw o bob deg o'i phoblogaeth yn Gymry Cymraeg. Yn y cyngor gwledig y perthyn Llangennech iddo y mae'r cynghorwyr i gyd yn Gymry Cymraeg: felly hefyd swyddogion y cyngor. Gan hynny, pan ddaeth papur hawlio'r dreth leol atynt oddi wrth “The Rural District Council of Llanelly”, anfonodd Mrs Beasley i ofyn am ei gael yn Gymraeg. Gwrthodwyd. Gwrthododd hithau dalu'r dreth nes ei gael. Gwysiwyd hi a Mr Beasley dros ddwsin o weithiau gerbron llys yr ustusiaid. Mynnodd Mr a Mrs Beasley fod dwyn y llys ymlaen yn Gymraeg. Tair gwaith bu'r beilïod yn cludo dodrefn o'u tŷ nhw, a'r dodrefn yn werth llawer mwy na'r dreth a hawlid. Aeth hyn ymlaen am wyth mlynedd...Aeth eu helynt yn destun sylw gwlad, a'r papurau newydd a'r radio a'r teledu yn boen beunyddiol iddynt. Yr oedd yr achosion yn y llys yn ddiddorol a phwysig.



Er enghraifft, ateb swyddog y dreth i Mr Wynne Samuel: 'Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar y Cyngor i argraffu'r papurau sy'n hawlio'r dreth mewn unrhyw iaith ond Saesneg.' ...Fe ellir achub y Gymraeg. Y mae Cymru Gymraeg eto'n rhan go helaeth o ddaear Cymru ac nid yw'r lleiafrif eto'n gwbl ddibwys. Dengys esiampl Mr a Mrs Beasley sut y dylid mynd ati. Trwy wyth mlynedd ymdrech Mrs Beasley, un Cymro arall yn y dosbarth gwledig a ofynnodd am bapur y dreth yn Gymraeg...Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo. ”



Arweiniodd y ddarlith hon at ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar 4 Awst 1962 yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais.




Pont Trefechan




Protest Pont Trefechan sy'n cael ei hystyried fel dechrau brwydr yr iaith Gymraeg. Cynhaliwyd y brotest yma ar 2 Chwefror 1963, bron blwyddyn ar ôl darlith “Tynged yr Iaith” Saunders Lewis. Ond, nid rhwystro traffig rhag cyrraedd a gadael Aberystwyth oedd nod y brotest yn wreiddiol.



Dilynodd Gareth Miles, o ardal Gaernarfon, enghraifft Saunders Lewis pan gafodd ei arestio am yrru beic modur gyda'i ffrind arno hefyd yn 1962. Gwrthododd fynd i lys gan ei fod i gyd yn uniaith Saesneg. Penderfynodd myfyrwyr Cymraeg o Brifysgolion Aberystwyth a Bangor fynd ati i gael eu harestio a byddai pob un ohonynt yn mynnu ar gael achos llys Cymraeg.



Trefnwyd y byddai'r protestwyr yn cwrdd yn y Home Cafe yn Aberystwyth. Aeth rhai gyda phosteri “Defnyddiwch yr Iaith Gymraeg” a “Statws swyddogol i'r Gymraeg” a'u rhoi dros Swyddfa'r Post y dref, a rhai eraill dros adeiladau'r Cyngor Sir, a hyd yn oed dros swyddfa'r heddlu! Ond ni chafodd unrhyw un ei arestio! Aeth Gareth Miles a'i ffrind yn ôl ar ei feic, a ni arestiwyd nhw chwaith! Felly, bu ail gyfarfod yn yr Home Cafe, gyda rhai'n dweud bod rhaid bod yn fwy ymosodol, a rhai eraill yn meddwl troi yn ôl! Penderfynwyd y byddai'r rhai oedd yn barod i barhau, ryw 30 o Gymry Cymraeg, yn mynd ati i gau Pont Trefechan, a rhwystro unrhyw draffig rhag mynd a dod i Aberystwyth o'r de!



Bu'r bont ar gau am tua hanner awr, ond roedd yn hanner awr brysur. Rhwystrwyd fan bost rhag dod i mewn i'r dre, a dechreuodd y postmon sbarduno'i fan yn agosach ac agosach at y protestwyr, gydag ambell aelod o'r cyhoedd yn ei annog i yrru drostynt! Dechreuodd y cyhoedd a'r heddlu daflu'r merched oedd yn protestio o ganol yr heol i'r palmant cyfagos, a rhwystrwyd y traffig.



Unwaith eto, ni arestiwyd unrhyw un, ond fe gafodd y digwyddiad sylw mawr yn y wasg, gyda newyddiadurwyr yn llenwi ciosgau ffôn dref ac anfon y stori dros Brydain gyfan, gan gynnwys Llundain. Bu erthyglau yn y papurau newydd o'r Cymro i'r Daily Express! Cafodd y ffaith nad oedd digon o barch i'r Gymraeg o fewn sefydliadau ac yn gyhoeddus gyhoeddusrwydd mawr. Dyma oedd y garreg filltir bwysicaf yn hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, er na gafodd unrhyw un ei arestio yn y pendraw.




Carchar am garu'i iaith




Yn ystod y 1960au a'r 1970au bu nifer o brotestiadau di-drais tebyg ac fe garcharwyd neu dirwywyd ymgyrchwyr. Yn eu plith oedd y canwr poblogaidd Dafydd Iwan. Enillwyd rhai consesiynau gan y Llywodraeth, gan gynnwys Deddf Iaith 1967, ac fe gynhyrchwyd ffurflenni dwyieithog gan rai cyrff cyhoeddus. Am gyfnod peintiwyd neu difrodwyd arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg ar hyd a lled Cymru gan gefnogwyr y Gymdeithas, ac arweiniodd yr ymgyrch hon at sefydlu'r egwyddor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru.



Ar ddechrau'r 1970au dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros wasanaeth darlledu radio a theledu Cymraeg. Gwrthododd rhai protestwyr brynu trwyddedau teledu a bu eraill yn dringo mastiau darlledu ac ymyrryd â stiwdios teledu. Cynyddodd y pwysau ar yr awdurdodau darlledu i gynnig gwasanaeth Cymraeg ac ym 1977 sefydlwyd Radio Cymru gan y BBC. Roedd cynlluniau hefyd i sefydlu sianel deledu ar wahân ar gyfer rhaglenni Cymraeg ond ym 1979 cyhoeddodd y llywodraeth Geidwadol na fyddai'n cadw'r addewid i sefydlu sianel o'r fath. Felly, cyhoeddodd Gwynfor Evans y byddai'n ymprydio oni byddai'r llywodraeth yn anrhydeddu'i haddewid. Achosodd ei fygythiad gryn gynnwrf ac roedd pryder y gallai arwain at ymgyrchu treisgar. Yn y pendraw ildiodd y llywodraeth i'r pwysau ac fe gyhoeddwyd ym mis Medi 1980 y byddai rhaglenni teledu Cymraeg yn cael eu darlledu ar y bedwaredd sianel newydd. Lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) ym 1982.




Deddf Iaith




Nid oedd Deddf Iaith 1967 yn bodloni ymgyrchwyr dros y Gymraeg ac ym 1982, wedi cyhoeddi maniffesto Cymdeithas yr Iaith, dechreuwyd ymgyrch i gael Deddf Iaith gynhwysfawr newydd. Ar ôl cyfnod hir o brotestio pasiwyd Deddf Iaith newydd yn y senedd ar 21 Hydref 1993. Yn ôl y Ddeddf byddai bwrdd statudol yn cael ei sefydlu i hyrwyddo'r Gymraeg a byddai rhaid i gyrff cyhoeddus baratoi cynlluniau iaith i ddangos sut y byddent yn rhoi triniaeth deg i'r Gymraeg. Ond beirniadwyd y Ddeddf gan Gymdeithas yr Iaith gan ddweud ei bod yn Ddeddf 'ddiddannedd, ddiddim'.



Mae Cymdeithas yr Iaith Cymraeg yn parhau i ymladd dros Ddeddf Iaith newydd. Mae o’r farn fod Deddf Iaith 1993 yn un wan ac yn methu'r nod. Nid yw'n rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg, sicrhau gwasanaeth Cymraeg yn y sector preifat nac yn sicrhau lle i'r Gymraeg yn y chwyldro technolegol. Am y rhesymau hyn mae'r gymdeithas yn parhau'n gryf yng Nghymru.