Rasys Nos Galan

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,026
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,215
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,371
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,240
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Guto Nyth Brân

Bob blwyddyn cynhelir ras unigryw yn ardal Aberpennar ar Nos Galan. Mae 'Ras Nos Galan' yn coffáu dawn rhedeg chwedlonol dyn lleol, Guto Nyth Brân. Cynhelid y rasys am y tro cyntaf ym 1958 ac maent wedi tyfu o ras ganllath a ras pedair milltir i fod yn gyfres o gystadlaethau, a'r uchafbwynt yw'r ras 5 cilometr.

Ganed Guto Nyth Brân, neu Griffith Morgan (1700-1737), yn Llwyncelyn yn y Rhondda. Fe'i magwyd ar fferm Nyth Brân ger Porth, sy'n esbonio'i lysenw. Mae llawer o straeon am ddawn rhedeg Guto, yn cynnwys rhedeg ar ôl a dal ysgyfarnog, a dal aderyn yn hedfan. Mae sôn iddo redeg o'i gartref i Bontypridd unwaith, pellter o tua saith milltir, yn yr amser y cymrodd i'w fam ferwi'r tegell. Daeth y gamp i sylw perchennog siop leol, Siân, ac mi aeth hi'n rheolwr iddo.

Heb Golli

Trefnodd Siân o'r Siop rasys i Guto, ac roedd y gyntaf yn erbyn capten o Loegr a oedd wedi'i orsafu ym Mhontypridd ac nad oedd erioed wedi cael ei guro. Enillodd Guto'r ras pedair milltir yn hawdd ac fe gasglodd ef a Siân wobr o £400. Parhaodd Siân â threfnu rasys i Guto ond roedd ei ddawn yn golygu na allai unrhyw un ei guro, ac fe aeth yr heriau'n fwy prin. Daeth ef a Siân yn gariadon ac ymgartrefu'n dawel yn y Rhondda.

Sialens newydd

Flynyddoedd i mewn i'w ymddeoliad ymddangosodd rhedwr newydd, o'r enw Prince neu “Prince of Bedwas” i'w herio. Nid oedd erioed wedi cael ei guro ac fe berswadiodd Siân Guto i redeg ras yn ei erbyn. Er ei fod yn 37 oed, dechreuodd hyfforddi i baratoi ar gyfer y ras 12 milltir o Gasnewydd yn Sir Fynwy i Eglwys Bedwas ger Caerffili. Aeth Prince at y blaen yn gynnar yn y ras, ond hwyliodd Guto heibio iddo i fyny allt tua'r diwedd i gael buddugoliaeth a'i enwi'n rhedwr cyflymaf ei gyfnod.

Yn anffodus, bu'r ymdrech o redeg 12 milltir mewn 53 munud, a'r weniaith a chlod a ddilynodd yn ormod i Guto. Wedi'i orlethu gan y dathliadau a'r curo cefn, fe ymgwympodd wrth y llinell derfyn. Bu farw ym mreichiau Siân yn 37 oed.

Heddiw

Heddiw mae'r Rasys Nos Galan yn cael eu cynnal i goffáu ei ddawn rhedeg. Bob blwyddyn mae gŵr gwadd enwog dirgel yn dechrau'r digwyddiad, ac yn rhoi torch ar fedd Guto ym mynwent Eglwys Llanwynno cyn rhedeg i'r llinell gychwyn gan gario ffagl Nos Galan. Mae'r ras 5 cilometr hŷn yn dechrau pan mae'r brif ffagl yn cael ei chynnau wrth y llinell gychwyn. Mae gwahoddedigion y gorffennol wedi cynnwys Linford Christie, Kirsty Wade, Iwan Thomas, Stephen Jones a Jamie Baulch.

Mae Guto Nyth Brân wedi'i gladdu ym mynwent Eglwys Llanwynno ger Aberpennar ac mae cerflun ohono ynghanol y dref.