Oesoedd Iâ a Phreswylwyr Ogofâu

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,379
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,058
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 638
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 800
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Oes yr Iâ




Mae'r cyfnod Palaeolithig yn cyfateb i'r cyfnod a elwir yn aml yn 'Oes yr Iâ'. Dyma pryd yr oedd yr hinsawdd yn pendilio rhwng cyfnodau oer iawn (a elwir yn gyfnodau rhewlifol), adegau pan oedd Cymru gyfan dan orchudd o iâ, a chyfnodau cynnes (cyfnodau rhyngrewlifol), fel y cyfnod presennol. Yn ystod hinsoddau cyfnewidiol y cyfnod Palaeolithig yr esblygodd ein hynafiaid cynnar o'u gwreiddiau yn Affrica, ymfudo ar draws Ewrop ac Asia, a datblygu'n fodau dynol modern. 



Yng Nghymru, daw'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth sydd gennym am fodolaeth cymunedau Palaeolithig o ogofâu. Mae'r rhain i'w canfod lle ceir calchfaen; er enghraifft, mewn rhannau o Sir Ddinbych, Bro Gŵyr a de Sir Benfro.



Daw'r dystioaeth sydd gennym am fodau dynol yng Nghymru o safle Ogof Pontnewydd (Sir Ddinbych). Yma, mae cloddiadau wedi dwyn i'r amlwg weddillion ffurfiau cynnar pobl Neanderthalaidd, a oedd yn byw tua 230,000 o flynyddoedd yn ôl. 




Neanderthalaidd




Roedd pobl Neanderthalaidd yn helwyr ac mae eu hoffer yn dangos y bu'n rhaid iddynt fod yn agos i'w prae er mwyn ei ladd. Nodweddir sgerbydau Neanderthalaidd, a gloddiwyd ar hyd a lled Ewrop, gan nifer fawr o esgyrn toredig, sy'n awgrymu mai'r helwyr eu hunain a gâi eu hanafu'n wael yn aml wrth iddynt hela eu prae. 



Gwnâi pobl Neanderthalaidd Ogof Pontnewydd offer drwy ddefnyddio cerrig lleol a gesglid yng nghyffiniau'r ogof; mae'r rhain yn cynnwys offeryn nodweddiadol a elwir yn naddyn Levallois. I greu'r rhain, paratoir darn mawr o garreg (a elwir yn graidd) drwy guro darnau oddi ar ei hymylon. Yna, caiff un naddyn Levallois ei fwrw oddi ar y craidd parod. Gellid defnyddio hwn naill ai fel offeryn torri neu, o'i gymhwyso ryw ychydig, fel crafell. 



Offeryn carreg nodweddiadol arall a ddefnyddid gan bobl Neanderthalaidd oedd llawfwyell 'bout coupé -llawfwyell o wneuthuriad da ac iddi ben gwastad yn hytrach nag un pigfain.




Lawfwyeill




Daethpwyd o hyd i lawfwyeill 'bout coupé' yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin, safle sydd bellach wedi'i ddinistrio gan waith cloddio mewn chwarel. Cafodd Ogof Coygan ei defnyddio fel gwylfan dros gyfnod byr gan bobl Neanderthalaidd rywbryd rhwng 60,000 a 40,000 o flynyddoedd yn ôl. Yna, bu'n ffau a ddefnyddid gan udfilod ar drothwy'r rhewlifiant diwethaf.



Mae'n bosibl mai'r dirywiad hwn yn yr hinsawdd yw'r rheswm am dranc y bobl Neanderthalaidd, a ddiflannodd oddi ar wyneb y Ddaear tua 35,000 o flynyddoedd yn ôl. 




Dynol modern




Ymddangosodd bodau dynol modern, fel ninnau, am y tro cyntaf tua 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Nodir ein hymddangosiad gan y defnydd o fath newydd o offer cerrig a wnaed o lafnau tenau, hir a dorrwyd oddi ar flocyn o gallestr. Y llafnau hyn a ddaeth yn sylfaen offer a oedd yn llawer mwy amlddefnydd ar gyfer hela, torri cig ac amrediad ehangach o weithgareddau eraill na'r rheini a ddefnyddid gan y bobl Neanderthalaidd.



Datblygodd bodau dynol modern cynnar y gelfyddyd gyntaf hefyd. Mae paentiadau ogofâu o'r cyfnod hwn wedi goroesi yn Ffrainc a gogledd Sbaen - ardaloedd oedd y tu hwnt i derfynau'r rhewlifau. Ym Mhrydain, mae celfyddyd yr ogofâu yn brinnach o lawer, a'r unig enghraifft y gwyddys amdani hyd yma yw'r engrafiad o alpafr, o bosibl, yn un o ogofâu Creswell Crags (Swydd Nottingham).