cac01136

Mae'r cyfwelai yn cofio gweld teledu yn nhy ffrind ysgol a'i fod yn rhan o ddodrefnyn anferth gyda 'Radiogram' yn y gwaelod. Nid yw'n cofio gwylio'r Coroni ond mae'n siwr ei bod wedi gweld 'news reels' yn y sinema. Roedd y cyfwelai yn byw yn Lerpwl yng nghyfnod boddi Cwm Tryweryn ac mae'n cofio bod y capeli Cymraeg yno wedi bod yn rhy barchus a heb leisio barn. Sonir am ei siom fod y Daily Post wedi eistedd ar y ffens. Dim byd am Dryweryn ar y teledu yn Lerpwl, dim llawer ar ol symud i Gymru chwaith, meddwl mai diffyg teledu Cymraeg oedd yn gyfrifol am hyn. Yng Nghaernarfon clywodd am drychineb Aberfan, wedi cael hanner y stori cofio meddwl 'pam fod plant wedi bod mewn pwll glo?' Ar ol cyrraedd adref deallodd beth oedd wedi digwydd ar ol troi'r teledu ymlaen. Dywed ei bod wedi dysgu mwy am Dde Cymru drwy'r darlledu bu. Teimlo bod S4C wedi rhoi llwyfan i ddiwylliant Cymru, meddwl bod Owen Edwards wedi rhoi'r naws iawn i noson y lansiad. Dywed nad oedd y teledu wedi cyfleu faint o blismyn oedd yn bresennol yng nghyfnod Streic y Glowyr ac nad oedd y glowyr yn cael eu portreadu'n deg bob amser.

Mae 8 eitem yn y casgliad

  • 496
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 480
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 624
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 908
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 549
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 736
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 553
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 662
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi