Morfil Cefngrwm (Megaptera novaeangliae)

Sgerbwd cefngrwm ifanc, a olchwyd i'r traeth un Sisltwn, ger Aberddawan, ar 16 Hydref 1982, a hwn oedd y cofnod cyntaf o'r rhywogaeth yn dod i'r lan mewn can mlynedd. Lladdwyd tra'n mynd i'r de am y gaeaf gyda'i grŵp teuluol, gan ddarn o bren mawr yn ystod stormydd corwynt yn yr Iwerydd. Aethpwyd ag ef i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i'w astudio, ei gadw a'i arddangos yn yr orielau.

Bydd yr anifeiliaid benywol aeddfed yn mesur hyd at 58' a'r gwrywod 50', gan pwyso rhwng 34-45 tunnell. Y morfil cefngwrm yw un o'r morfilod balîn mwyaf yng nghefnforedd y byd. Roedden nhw'n arfer bod yn gyffredin ond cawsant eu hela nes bron cael eu difa, a hyd yn oed 'nawr mae'r niferoedd yn fychan. Bydd y rhai aeddfed yn bwydo ar blancton a physgod yn y dyfroedd gogleddol goludog yn yr har, ac yna'n mudo i ddyfroedd is-drofannol yn y gaeaf. Mae’r Morfil Cenfgrwm ymhlith y rhywogaethau sy’n mudo bellaf. Maen nhw’n mudo o’u cynefin gaeafu trofannol i’w tiroedd bwydo dros yr haf ger y pegynau, gan deithio mwy na 5,000 o filltiroedd y flwyddyn.

Mae 6 eitem yn y casgliad

  • 242
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 272
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 255
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 273
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 243
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 213
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi