Gweithia gan yr Arlunydd J. Kelt Edwards

Ganed yr arlunydd a'r cartwnydd John Kelt Edwards (1875-1934) ym Mlaenau Ffestiniog. Paentiodd amryw o dirluniau a phortreadau o Gymry enwog, gan gynnwys David Lloyd George, O M Edwards a Hedd Wyn, gan arddangos gweithiau yn y Paris Salon yn Llundain.

Yn dilyn marwolaeth Hedd Wyn yn 1917 lluniodd gerdyn post enwog 'Hiraeth Cymru am Hedd Wyn' lle mae'n portreadu Cymru fel mam alarus, ac yn ddiweddarach darluniodd gyfrol 'Cerddi'r Bugail' Hedd Wyn a gyhoeddwyd dan olygyddiaeth y Parch. J. J. Williams yn 1918.

Cynlluniodd yn ogystal gadair Eisteddfod Genedlaethol Corwen yn 1919 ac fe'i cerfiwyd gan ei gefnder, y saer Elis Davies.

Mae 6 eitem yn y casgliad

  • 289
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 838
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 459
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi