Peter Latham (1929-). Y Fyddin Brydeinig, Machynlleth

Peter Latham yn dwyn i gof ei yrfa ym Myddin Prydain, gyda photograffau perthnasol.

Treuliodd y Lefftenant Cyrnol Peter Latham ei yrfa i gyd ym Myddin Prydain. Cafodd ei eni yn Wolverhampton yn 1929, ac ymunodd â'r Fyddin yn y lle cyntaf fel milwr dan orfod, cyn cael ei drosglwyddo i'r Fyddin Barhaol a dod yn swyddog â chomisiwn. Gwasanaethodd Peter yn Hong Kong ar ddau achlysur, a chafodd ei anfon i weithredu yn Kenya, a'r Almaen, yn ogystal â'r DG. Wedi gwasanaethu am bedair ar ddeg ar hungain o flynyddoedd, ymddeolodd Peter o'r Fyddin. Mae ef a'i wraig, Sheila wedi byw gerllaw aber afon Dyfi am dros ddeugain mlynedd, ac nid ydynt erioed wedi difaru symud yno.

Mae 3 eitem yn y casgliad