Gweithiau celf, ffotograffiaeth a mapiau: eitemau iiif Casgliad y Werin
Casgliad o weithiau celf, ffotograffiaeth a mapiau degwm sy'n dangos sut mae Casgliad y Werin yn defnyddio'r 'International Image Interoperability Framework' (iiif) er mwyn rhannu delweddau gan sefydliadau partner ac eraill. O roi iiif ar waith rydym yn gallu darparu lluniau bach mewn manylder yn ogystal â'ch galluogi chi i weld rhannau penodol o luniau trwy glosio i mewn gyda'n syllwr; trwy hyn rydym yn darparu hygyrchedd estynedig i ysgolheigion ac ymchwilwyr, ac yn hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol y gallwn ni i gyd ei mwynhau. Mae'r casgliad hwn yn cynnwys eitemau o gasgliad 'Syr Kyffin Williams - Tu ôl i'r Ffrâm', casgliad Paul Mellon yn yr Yale Center for British o dirluniau, cestyll ac adfeilion yng Nghymru, Mapiau Degwm Prosiect 'Cynefin' LLGC, ac eitemau o amrywiol o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru megis ffotograffau Martin Ridley a chasgliad darluniadau portreadau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.