Nick Treharne - Portread o Gymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i bron i filiwn o ffotograffau sy'n gysylltiedig â Chymru. Mae'r rhain yn amrywio o weithiau gan ffotograffwyr arloesol o ddyddiau cynharaf ffotograffiaeth i bortffolios gan ffotograffwyr cyfoes. Dyma ddetholiad o ddelweddau gan y ffotograffydd Nick Treharne fel rhan o brosiect 'Portread o Gymeu' i ddogfennu’r Gymru gyfoes. Ers 2018, ‘gweledigaeth’ Nick fu adeiladu portffolio cynhwysfawr o fywyd yng Nghymru. Mae llawer o'i waith yn arsylwadol wrth iddo chwilio am eiliadau cyfareddol ar y strydoedd, yng nghefn gwlad ac yn y llu o ddigwyddiadau sy'n digwydd bob blwyddyn. O ddigwyddiadau a thraddodiadau sy'n rhan annatod o fywyd Cymru, i bortreadau o'r cymeriadau ysbrydoledig a diddorol y mae'n cwrdd â nhw ar ei deithiau, mae'r gŵr hwn sydd wrth ei fodd â’r “hanner eiliad” yn trawsnewid pynciau cyffredin bob dydd yn rhywbeth eithriadol.