Y Bathdy Brenhinol

Sefydlwyd y Bathdy Brenhinol cyntaf ym Mhrydain yn 886 gan Alfred, brenin Lloegr. O ddiwedd yr 13 g hyd nes 1810, Tŵr Llundain oedd cartref y bathdy, cyn iddo gael ei symud i’r Gwynfryn (Tower Hill). Ond yna yn 1968 cafodd ei ail-leoli yn Llantrisant, a hynny mewn adeilad newydd pwrpasol ac mewn da bryd ar gyfer yr arian degol a gafodd ei fabwysiadu yn 1972. Bellach cynhyrchir darnau arian i dros 60 o wledydd yn y Bathdy yn Llantrisant, ac maent hefyd yn cynhyrchu medalau swyddogol, seliau a darnau coffaol. Mae’r cwmni yn eiddo i Drysorlys Ei Mawrhydi, ac yn 2009 agorwyd Canolfan Ymwelwyr gwerth £9miliwn o bunnoedd yno.

Mae 2 eitem yn y casgliad