Doliau - Welsh Costume Dolls's profile picture

Doliau - Welsh Costume Dolls

Dyddiad ymuno: 27/01/16

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Doliau: Project doliau gwisg Gymreig

Roedd y project hwn yn astudiaeth o 38 dol mewn gwisg Gymreig o’r 19eg ganrif. Cafodd ei gynnal yn 2011–2012 er mwyn dadansoddi’r ffabrigau (y ffabrigau Cymreig hynaf sydd wedi goroesi o bosibl), a’r mathau o wisgoedd.

Cafodd y project ei ariannu gyda grant gan CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru (Llywodraeth Cymru) a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.

Roedd y project yn cynnwys bron i bob dol o’r 19eg ganrif sydd mewn casgliadau cyhoeddus ym Mhrydain gan gynnwys rhai o: Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Sir Benfro; Amgueddfa Dinbych-y-pysgod; Amgueddfa Gwynedd, Bangor; Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth; Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog; Victoria and Albert Museum, Museum of Childhood (Llundain); Amgueddfa Llundain, Potteries Museum and Art Gallery, Stoke on Trent a chasgliad preifat. Mae partneriaid y project yn ddiolchgar iawn i’r holl amgueddfeydd am ganiatáu i’w doliau gael eu hastudio.

Cafodd yr archwiliadau technegol ar y doliau a’u gwisgoedd eu cynnal gan Emma Telford a Clare Stoughton-Harris (cadwraethwyr annibynnol), a Jenny Barsby (Amgueddfa Cymru). Bu Jihyun Kwon, myfyriwr MSc Gofal Casgliadau, Adran Archaeoleg a Chadwraeth, Prifysgol Caerdydd, a staff o Amgueddfa Llundain, yn rhoi archwiliad pelydr-x i’r doliau.
 

Y partneriaid oedd:

Amgueddfa Ceredigion (Michael Freeman, curadur Amgueddfa Ceredigion, 1991-2012, sy’n astudio hanes a ffabrigau gwisgoedd traddodiadol menywod yng Nghymru, 1770 hyd heddiw);

Amgueddfa Cymru (Diane Gwilt, Elen Phillips, Emma Lile, Jenny Barsby, Mary Davis, Sue Renault);

Prifysgol Caerdydd, Adran Archaeoleg a Chadwraeth (Jane Henderson);

Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru (Rachael Rogers).

Mae’r adroddiad yn cynnwys:

  • crynodeb o’r archwiliad technegol a wnaed gan Emma Telford a Clare Stoughton-Harris;
  • o leiaf un pelydr-x o bob dol;
  • disgrifiadau manwl a ffotograffau safonol o bob dilledyn ar bob dol.

Mae’r crynodeb a’r adroddiadau llawn ar bob dilledyn i’w gweld yma: https://welshhat.wordpress.com/welsh-costume-dolls/doliau-welsh-costume-dolls-project/