Sefydliad y Merched / Women's Institute 's profile picture

Sefydliad y Merched / Women's Institute

Dyddiad ymuno: 28/05/15

Amdan

Bywgraffiad CY: 
Sefydliad y Merched yw’r sefydliad mwyaf i ferched yn y DU gyda 212,000 o aelodau mewn 6,600 o Sefydliadau. Yng Nghymru, mae 16,000 o aelodau yn perthyn i 500 o Sefydliadau. Mae’n chwarae  rhan unigryw drwy alluogi merched i ddatblygu sgiliau newydd, cynnig cyfleoedd i ferched ymgyrchu ar faterion sy’n bwysig iddynt hwy ac i’w cymunedau, ac yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau i aelodau cymryd rhan ynddynt. 
 
Fe sefydlwyd y mudiad yn 1915 yn Llanfairpwll, Sir Fôn, ac aeth ati i roi llais i ferched, i fod yn rym er daioni yn y gymuned. Yn lle diogel i ferched, yn cael ei redeg gan ferched o bob cenhedlaeth 
- yn gyfle i rannu profiadau neu i ddysgu gan rywun â phrofiad go iawn, un uniongyrchol. 
 
Mae’r un peth yn wir heddiw.  Mae SyM wedi symud gyda’r oes a’r ffyrdd dirifedi mae bywydau merched wedi newid ond mae’n dal i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig: helpu merched i fyw’r bywydau maen nhw eisiau eu byw, gyda’r holl gyngor y gallan nhw ei gael, a lleisio barn ar ein dyfodol ni i gyd. Mae rhai’n ymaelodi i ymgyrchu: os mai dyna sy’n eich ysbrydoli chi, mae gan SyM lais ar faterion heddiw, o’r newid yn yr hinsawdd i ddiet plant a masnachu mewn pobl i ehangu archfarchnadoedd, ac mae’n llais mae pobl wir yn gwrando arno.
 
I lawer, mae SyM yn gyfle i rannu gwybodaeth gyda merched eraill, gan ddod ynghyd yn gymdeithasol ac i ddysgu sgiliau newydd; man lle bydd eraill yn gwrando arnoch chi ac yn cymryd sylw o’r hyn a ddywedwch. I bawb sy’n ymaelodi â SyM mae yna ryddid i wneud yr hyn a fynnwch ohono. Efallai mai’r elfen bwysicaf yn eich cymuned fydd e, neu efallai rhywbeth i fanteisio arno o dro i dro wrth geisio ymdopi â phopeth arall 
yn eich bywyd; cyfle i ddewis yr hyn rydych chi eisiau ei wneud. Beth bynnag a ddewiswch, mae SyM yn addo bod yn ffynhonnell ddiddiwedd o brofiadau sy’n ysbrydoli, cyfeillgarwch ac ysbrydoliaeth.
 
 
 
  • 1,016
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi