Addoldai Cymru's profile picture

Addoldai Cymru

Dyddiad ymuno: 17/02/15

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Elusen yw Addoldai Cymru a sefydlwyd i gymryd meddiant ar ddetholiad o gapeli gwag sydd o arwyddocâd hanesyddol a/neu bensaernïol yn hanes codi capeli ac Anghydffurfiaeth yng Nghymru ac sy’n werthfawr i’w cymunedau lleol. Ein nod yw gwarchod a datblygu nifer fach o adeiladau capeli Cymru mewn modd sensitif, ac ar hyn o bryd rydym yn berchen ar chwe chapel o enwadau amrywiol ar hyd a lled Cymru. Rheolir yr elusen gan dîm bach o staff ac ymddiriedolwyr ac mae eu gweledigaeth hwy’n dibynnu ar ewyllys da cymunedau lleol a chyrff sydd â diddordeb. Ein nod yw adrodd hanes capeli Cymru o’u dechreuadau di-nod i’w sefyllfa bresennol lle cânt eu disgrifio fel “pensaernïaeth genedlaethol Cymru”, a chreu etifeddiaeth bwysig er budd y cenedlaethau a ddaw.

http://www.addoldaicymru.org/

Popular Items

Cyfranwyr poblogaidd