Mapiau Degwm | Tithe Maps's profile picture

Mapiau Degwm | Tithe Maps

Dyddiad ymuno: 17/12/14

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Cynefin: Mapio Ymdeimlad o Le yng Nghymru

Nod prosiect Cynefin yw digido dros 1,100 o fapiau a thrawsgrifio tua 36,000 o ddogfennau rhestrau penni’r degwm, a’u cysylltu â’r lleoliad priodol ar y map. Helpwch ni i drawsgrifio holl fapiau degwm Cymru, yn cynnwys y mynegeion, ar wefan cynefin.cymru

Ar ddiwedd y prosiect, bydd map degwm unedig o Gymru ar gael ar wefan Casgliad y Werin fel haen ychwanegol yn yr adran Mapiau.

Cynhyrchwyd y Mapiau Degwm rhwng 1838 a 1850 yn dilyn Deddf Cymudo’r Degwm yn 1836 fel rhan o’r broses i sicrhau fod pawb yn gwneud taliad degwm ariannol yn hytrach na chynnyrch. Rhain yw’r mapiau mwyaf manwl sydd ar gael o’u cyfnod ac mae map degwm ar gyfer dros 95% o dir Cymru.

Arweinir y prosiect hwn gan Archifau Cymru mewn partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chasgliad y Werin. Arienir y prosiect yn bennaf gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy CyMAL, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cymru.

  • 1,393
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi