Audrey Groom and Deanna Groom's profile picture

Audrey Groom and Deanna Groom

Dyddiad ymuno: 15/06/14

Amdan

Bywgraffiad CY: 
Gellir olrhain diddordeb angerddol ein teulu ni mewn hanes lleol yn ôl i ddiddordeb fy mam, Audrey, mewn hen eglwysi a chariad fy nhad am ffotograffiaeth. Mae ein albymau ffotograffau cynnar yn llawn lluniau o eglwysi Eingl Sacsonaidd a Normanaidd hardd, a byddai fy chwaer a minnau yn aml yn cael tynnu ein lluniau y tu mewn iddynt, neu dro arall y tu allan yn archwilio’r cerrig beddi. Wedi ei gadw rhwng cloriau un o’r albymau yma mae llyfryn bach tenau o'r enw 'What to look for in an old Church' gan J Hope Unwin, sy'n dyddio o 1949. Dyma oedd y tywyslyfr poced defnyddiol oedd gan Audrey i nodi gwahanol fathau o ffenestri a nodweddion fel megis morthwyl drws noddfa, marciau seiri maen a chist y plwyf. Aem ar deithau car ar y Sul yn aml i chwilo am blasdai, pentrefi pictiwrésg neu lan-y-môr, ac yn ddiweddarach byddai Audrey yn defnyddio'r profiadau hyn wrth ysgrifennu straeon byrion ac erthyglau teithio ar gyfer cylchgronau fel The Lady. Ers symud i Gymru, mae ein teithio yma ac acw wedi parhau gyda chymorth sgwter bach trydan, ac, yn ddiweddar, cadair olwyn drydan i Audrey. Yn haf 2014, daethom o hyd i adnoddau ar wefan Casgliad y Werin Cymru a oedd yn cynnwys un o’r tywyslyfrau bwrdeistref cynnar ar gyfer ein tref ni – Machynlleth. Yn fuan wedyn cawsom syniad ar gyfer prosiect hanes lleol a fyddai'n golygu tynnu lluniau o'r tirnodau y cyfeirir atynt mewn canllawiau cynnar i ymwelwyr a thynnu sylw at y llwybr mwyaf hygyrch er mwyn i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a defnyddwyr sgwteri trydan eraill eu gweld. Felly y daeth yr enw Photoscoot i fod, gan ddwyn ynghyd y geiriau 'photo shoot’ a ‘scooter’ a’u byrhau. Mae ein cyfuniad o gariad at hanes, ac at archwilio a thynnu lluniau o dreftadaeth Cymru yn parhau.